peoplepill id: ann-watkins
AW
1 views today
2 views this week
The basics

Quick Facts

Gender
Female
The details (from wikipedia)

Biography

Alltudiwyd Ann Watkins (ganwyd tua 1822) o Sir Fynwy i Van Diemen’s Land (Tasmania heddiw), am gyfnod o ddeng mlynedd, wedi iddi ddwyn darn o facwn a thorth o fara, ei throsedd cyntaf hyd y gwyddom.

Ar 28 Mawrth 1840, yn 18 blwydd oed, plediodd hi a Elizabeth Lewis (18 oed) yn euog o ddwyn torth o fara, darnau o gig mochyn (yn cynnwys y wyneb) a chwarter pwys o sebon. Hwyliodd ar gwch y Navarino ar 5 Hydref 1840 gyda 179 o garcharorion eraill a glaniodd yn Tasmania ar 17 Ionawr 1841.

Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb.  Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Ann Watkins is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Ann Watkins
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes