Ann Griffiths
Quick Facts
Biography
Telynores o Gymraes oedd Ann Griffiths (26 Hydref 1934 – 24 Gorffennaf2020).
Fe'i ganed yng Nghaerffili ym 1934. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd cyn astudio'r delyn yn Conservatoire de Paris, lle enilloddei Premier Prix ym 1958. Ym 1959 daeth yn brif delynores gyda'r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, yn ogystal â dechrau gyrfa ryngwladol fel unawdydd cyngerdd. Roedd hi'n bennaeth adran y delyn yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, nes iddi ymddeol ym 1979.
Cyhoeddodd nifer o gyfansoddiadau ar gyfer y delyn, gan gynnwys trefniannau o ganeuon gwerin Cymru, yn ogystal â llawlyfr hyfforddi, Saith Gwers i Ddechreuwyr (1964). Cyhoeddodd nifer o erthyglau am hanes y delyn a thelynorion. Un arall o'i diddordebau ymchwil oedd Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, ac roedd hi'n Gadeirydd Cymdeithas Gwnynen Gwent (Lady Llanover Society). Gyda’i gŵr, Dr Lloyd Davies (1923–2002), sefydlodd y cwmni Adlais Music Publishers.
Bu farw gartref yn Rhaglan, Sir Fynwy yn 2020.