Aled Gwyn
Quick Facts
Biography
Gweinidog, newyddiadurwr, cyfieithydd a phrifardd yw'r Parchedig Aled Gwyn (20 Awst 1940).
Bywyd cynnar
Ganed D Aled Gwyn Jones yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion, yr ifancaf o Fois Parc Nest. Fe'i magwyd ar y fferm gan ei rieni Gwenni (Gwendolen) a Gwyn Jones. Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Aberystwyth ac Abertawe a graddiodd yn 1963.
Gyrfa
Cychwynnodd fel gweinidog ifanc yn Eglwys Henllan Amgoed ym mis Medi 1966. Gwasanaethodd hefyd fel cynghorydd sir dros Blaid Cymru. Symudodd i Gapel Soar Maesyrhaf, Castell-nedd yn 1976.
Aeth ymlaen i ddod yn newyddiadurwr gyda BBC Radio Cymru.
Cafodd ei goroni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergele 1995 gan ei frawd John Gwilym Jones a oedd yn Archdderwydd ar y pryd. Ysbrydolwyd ei gerdd "Melodiau" gan y brofedigaeth o golli ei wyres, Gwennan.
Bywyd personol
Roedd yn briod â'r ddarlledwraig Menna Gwyn (1941–2006) hyd ei marwolaeth. Mae ganddynt ddau o blant, Non a Rolant.