Absalom Roberts
Quick Facts
Biography
Bardd Cymraeg oedd Absalom Roberts (tua 1780 – 1864), sy'n adnabyddus yn bennaf fel awdur casgliad argraffiedig cynnar o'r Hen Benillion ac am y gerdd "Trawsfynydd".
Bywgraffiad
Ganed Absalom Roberts ym mhlwyf Trefriw yn Sir Gaernarfon (yn Sir Conwy rwan) tua'r flwyddyn 1780. Ychydig a wyddom am fanylion ei fywyd personol. Crydd oedd Absalom wrth ei alwedigaeth. Fel nifer o grefftwyr gwledig eraill yn y cyfnod hwnnw, crwydrai o gwmpas gogledd Cymru yn dilyn ei grefft. Dychwelodd i fyw yn Nyffryn Conwy ar ddiwedd ei oes gan ymsefydlu'n gyntaf ym mhlwyf Eglwys-bach ac wedyn yn Llanrwst lle bu farw yn 1864.
Bardd a chasglwr
Roedd Absalom yn gasglwr brwd o hen benillion Cymraeg a byddai'n eu lloffio ar hyd ei oes. Enillodd wobr am y casgliad gorau o hen benillion yn Eisteddfod Dinbych 1828. Yn 1845 cyhoeddwyd y casgliad yn y llyfr Lloches Mwyneidd-dra, sy'n cynnwys carolau Cymraeg ac englynion yn ogystal; ceir rhai o gerddi Absalom ei hun yn eu plith, yn cynnwys y gerdd "Trawsfynydd". Mae arddull yr hen benillion a'r penillion telyn yn drwm ar y gerdd hon a cherddi eraill ganddo.
Llyfryddiaeth
- Lloches Mwyneidd-dra. John Jones, Llanrwst. 1845.
Cyhoeddwyd y gerdd "Trawsfynydd" mewn sawl blodeugerdd Gymraeg yn cynnwys:
- W. J. Gruffydd, Y Flodeugerdd Gymraeg (1931)
- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Aberystwyth, 1965).
- Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Rhydychen)
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
- Hen Benillion
- Rhestr awduron Cymraeg (1600–heddiw)