Quantcast
Wynne Roberts: Welsh hypnotist (born: 1943 - died: 2009) | Biography, Facts, Information, Career, Wiki, Life
peoplepill id: wynne-roberts
WR
1 views today
6 views this week
Wynne Roberts
Welsh hypnotist

Wynne Roberts

Wynne Roberts
The basics

Quick Facts

Intro Welsh hypnotist
Was Hypnotist
From United Kingdom
Gender male
Birth 1943
Death 4 March 2009 (aged 66 years)
The details (from wikipedia)

Biography

Hypnotydd Cymreig oedd Wynne Roberts (bu farw 4 Mawrth, 2009 yn 66 mlwydd oed). Roedd yn enwog am ei sioeau llwyfan difyrrus ond bu hefyd yn gweithio fel arbenigwr hypnotherapi i'r grŵp feddygol BUPA.

Cafodd Roberts ei eni yng Nghaergybi ac yn hwyrach yn ei fywyd bu'n byw yn Wrecsam am rai blynyddoedd cyn symud i Brestatyn. Yn ei arddegau gweithiodd fel porthor mewn gwesty a dechreuodd gweithio fel hypnotydd ar ôl treulio saith mis mewn mynachlog yn Nhibet.

Yn y 1970au cafodd ei gynnwys yn y Guinness Book of World Records am y cyfnod o amser yr oedd yn gallu canu'r drymiau.

Roedd Roberts yn aelod o FESH (Federation of Ethical Stage Hypnotists) ac fe enillodd wobrau am ei sioe lwyfan gan gynnwys Sioe Cabaret Orau a Sioe Cabaret Ryngwladol Orau. Cyflwynodd y rhaglen Y Sioe Anghyffredin ar S4C ac roedd yn gyfrannwr rheolaidd i BBC Radio Cymru.

Ar ôl ffrwydradau terfysgol yn Llundain yn 2005 bu'n defnyddio hypnotherapi i gwnsela rhai a ddioddefodd yn y cyrchoedd. Bu Roberts hefyd yn defnyddio hypnotherapi ar filwyr ag anafwyd yn rhyfeloedd Irac ac Afghanistan.

Roedd Roberts yn briod i'w wraig Linda ac yn dad i bedwar o blant, Vicky, Bruce, Paul, a Melissa. Bu farw ym Mawrth 2009 o ganser.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 06 Aug 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Sections Wynne Roberts

arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes