peoplepill id: thomas-foulkes
TF
Great Britain United Kingdom
1 views today
2 views this week
Thomas Foulkes
Early Welsh Methodist exhorter

Thomas Foulkes

The basics

Quick Facts

Intro
Early Welsh Methodist exhorter
A.K.A.
Thomas Foulks
Work field
Gender
Male
Religion(s):
Birth
Place of birth
Llandrillo, Denbighshire, Wales, United Kingdom
Place of death
Machynlleth, Powys, Wales, United Kingdom
Age
71 years
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd Thomas Foulkes (1731, - 15 Mai, 1802) yn gynghorydd, sef bregethwr cynnar, oedd a chysylltiadau cryf gyda dwy blaid y Methodistiaid, Y Methodistiaid Wesleaidd a'r Methodistiaid Calfinaidd.

Cefndir ei grefydd

Ganwyd Thomas Foulkes yn Llandrillo, Sir Feirionnydd. Tyddynwyr oedd ei rieni. Pan oedd tua 23 mlwydd oed symudodd i Gaer i weithio fel saer coed. Yng Nghaer daeth yn gyfeillgar â gŵr ieuanc o'r enw Robert Roberts, yr hwn a fu wedi hynny yn weinidog Wesleaidd. O dan ddylanwad ei gyfaill dechreuodd mynychu Capel Wesleaidd yr Octagon. Ymunodd â chymdeithas y Wesleaid yn Neston, Swydd Gaer lle clywodd John Wesleyyn pregethu ym 1756 gan ddod dan deimladau ysbrydol dwys.

Ychydig wedi ei dröedigaeth yng Nghaer symudodd i'r Bala i agor siop. Gan nad oedd achos Wesleaidd yn Y Bala, ymunodd a seiat y Methodistiaid Calfinaidd yno, a dechreuodd cynghori i'r enwad hwnnw. Gan fod dwy blaid y Methodistiaid, ar y pryd, yn parhau i fod yn gymdeithasau o fewn Eglwys Loegr, mi fyddai'n anghyfreithiol i aelodau oedd heb eu hordeinio'n offeiriaid Eglwys Loegr pregethu. I osgoi eu herlyn galwyd y pregethwyr lleyg yn Gynghorwyr a'r hyn roeddynt yn dweud wrth gymdeithasau a seiadau yn air o gyngor yn hytrach na phregeth.

Priodasau

Priododd Thomas Foulkes teirgwaith, roedd pob un o'i wragedd a chysylltiadau pwysig yn hanes datblygiad Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Margaret, ferch Humphrey Jones oedd ei wraig gyntaf, bu eu priodas ym 1758. Roedd Humphrey Jones yn un o sylfaenwyr Methodistiaeth Galfinaidd yn Y Bala ac yn gyfaill a gohebydd i Howel Harris. Bu Margaret farw o wewyr esgor ym 1759, ni fu plentyn byw o'r briodas. Ym 1761, priodwyd Foulkes â Jane, gweddw David Jones a mam Sarah Jones, a ddaeth wraig i Thomas Charlesym 1783. Bu Jane farw ym 1785.

Roedd Thomas a Sarah Charles, hefyd, yn cadw siop yn y Bala, gan nad oedd gan Thomas bywoliaeth eglwysig, er gwaetha'r ffaith ei fod yn offeiriad Eglwys Loegr; y siop oedd unig gynhaliaeth y teulu. Er mwyn peidio gorfod cystadlu am fusnes efo'i llysferch a'i fab yng nghyfraith enwog symudodd Thomas Foulkes i Fachynlleth gan agor siop yno.

Trydedd wraig Thomas Foulkes oedd Lydia, merch i Simon Lloyd, Plas yn Dre'r Bala a chwaer i Simon Lloyd (1756 - 1836)un o offeiriaid cyfoethogaf y Methodistiaid. Bu iddynt wyth o blant.

Deuoliaeth

Er ei fod wedi dod yn gynghorydd i'r Methodistiaid Calfinaidd, parhaodd Thomas Foulkes i ddanfon arian i achos y Methodistiaid Wesleaidd, ac i John Wesley ei hun. Talodd am gyfieithu a chyhoeddi cyfieithiadau John Evans o Brif Feddyginiaeth Wesley ym 1759 ac o'i Reolau yr Unol Gymdeithasau ym 1761.

Marwolaeth

Ym 1802 daeth Owen Davies a John Hughes i Fachynlleth ar ran y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg newydd, croesawodd Foulkes nhw i'w gartref a threfnodd iddynt bregethu yn y capel Calfinaidd lleol. Cafodd strôc yn ystod pregeth Davies a bu farw ychydig ddyddiau yn niweddarach, gan ei esgeuluso o'r frwydr daeth wedi hynny rhwng yr enwadau.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 13 Sep 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Thomas Foulkes is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Reference sources
References
Thomas Foulkes
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes