peoplepill id: robert-jones-5
RJ
Wales
1 views today
1 views this week
Robert Jones
Welsh preacher, teacher and writer

Robert Jones

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh preacher, teacher and writer
A.K.A.
Rhoslan
From
Gender
Male
Place of birth
Llanystumdwy, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Age
84 years
Residence
Rhoslan, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Notable Works
Drych yr Amseroedd
 
The details (from wikipedia)

Biography

Pregethwr, athro ac awdur ar bynciau crefyddol oedd Robert Jones (13 Ionawr 1745 - 18 Ebrill1829), a adwaenir fel Robert Jones, Rhoslan. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur Drych yr Amseroedd (1820).

Bywgraffiad

Ganwyd ef ar fferm y Suntur, Llanystumdwy, ac addysgwyd ef yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones. Yn ddiweddarach daeth ef ei hun yn athro yn yr ysgolion cylchynol hyn mewn nifer o leoedd yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd, a daeth yn amlwg fel pregethwr iddynt.

Priodiodd Magdalen Prichard a symudodd i Roslan, lle defnyddiai ran o'i dŷ fel capel Methodistaidd. Yn ddiweddarach symudodd i Ddinas, Llŷn. Roedd ganddo bedwar o blant. Claddwyd ef ym mynwent Llaniestyn.

Drych yr Amseroedd

Ei gyfrol enwocaf yw Drych yr Amseroedd, sy'n rhoi hanes yr Ymneilltuwyr cynnar yng Ngwynedd a'r erledigaeth a fu arnynt. Mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr crefydd a chymdeithas yn ail hanner y 18fed ganrif yng Nghymru ac yn nodweddiadol am ei arddull bywiog a'i frasluniau cofiadwy o bobl a digwyddiadau.

Llyfryddiaeth

Cyhoeddiadau

  • Lleferydd yr Asyn (1776: cyhoeddwyd am yn wreiddiol fel Ymddiffyn Crist'nogol, 1770)
  • Y Cristion mewn Cyfiawn Arfogaeth (1775, 1784).
  • Drych i'r Anllythrennog (1788)
  • Grawnsypiau Canaan (1795). Casgliad o emynau.
  • Achos Pwysig yn cael ei Ddadleu (1797).
  • Llwybr Hyffordd i'r Anllythrennog (1805)
  • Marwnad... y Parch. Thomas Jones (1820). Marwnad i Thomas Jones, Dinbych
  • Drych yr Amseroedd (1820).
    • G. M. Ashton (gol.) Drych yr Amseroedd (Caerdydd, 1958).

Astudiaethau

  • Dafydd Glyn Jones, Yn Nrych yr Amseroedd (Y Ddarlith Lenyddol Flynyddol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987).

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 10 Jul 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Robert Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Reference sources
References
Robert Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes