Jennie Thomas
Quick Facts
Biography
Awdures llyfrau plant yn y Gymraeg oedd Jennie Thomas (1898 - 1979). Fe'i cofir yn bennaf fel awdures llyfrau am anturiaethau Wil Cwac Cwac ac fel cyd-awdures Llyfr Mawr y Plant.
Bywgraffiad
Cafodd Jennie Thomas ei geni ym Mhenbedw, Cilgwri, i rieni o Gymry Cymraeg (brodor o Fôn oedd ei thad ac o Geredigion y daeth ei mam). Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Lerpwl, daeth yn ôl i'w gwreiddiau teuluol yn y gogledd ac ymsefydlodd ym Methesda lle cafodd waith fel athrawes yn Ysgol y Cefnfaes yno, lle'r oedd y llenor J. J. Williams yn brifathro. Cafodd swydd yn nes ymlaen fel Trefnydd Iaith i ysgolion cynradd Sir Gaernarfon, gyda'r dasg o hyrwyddo'r Gymraeg yn ysgolion y sir.
Creodd y cymeriadau hoff Siôn Blewyn Coch a Wil Cwac Cwac ar gyfer y gyfrol gyntaf o Lyfr Mawr y Plant (1931). Cyhoeddodd sawl cyfrol am anturiaethau Wil Cwac Cwac yn ogystal, a oedd yn sail i gyfres o ffilmiau animeiddiedig yn nes ymlaen, a ddarlledwyd rhwng canol yr 1980au a dechrau'r 1990au.
Llyfryddiaeth ddethol
- (cyd-awdures), Llyfr Mawr y Plant (Wrecsam, 1931, 1939, 1949)
- (gol.), Hwiangerddi (1945)
- (cyd-awdures), Chwaraeon ysgol i'r babanod (1947)
- Wil Cwac Cwac (llyfr) (Wrecsam, 1947)
- (gol.), Llyfrau Darllen a Lliwio (1951, 1952)
- (gol.), Celfi Darllen (1953-56)