peoplepill id: huw-jones-o-langwm
HJ
Wales
7 views today
15 views this week
The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet
From
was
Work field
Gender
Male
Birth
Place of birth
Llangwm, United Kingdom
Death
1782 (aged 82 years)
Age
82 years
The details (from wikipedia)

Biography

Ni ddylid cymysgu Huw Jones â'r bardd ac emynydd o'r un cyfnod, Hugh Jones.

Bardd gwerinol, baledwr ac awdur anterliwtau oedd Huw Jones (dechrau'r 18g - tua 1782?). Roedd yn frodor o bentref Llangwm yn yr hen Sir Ddinbych (Conwy heddiw) ac yn adnabyddus iawn yng ngogledd Cymru fel 'Huw Jones o Langwm'.

Bywgraffiad

Ychydig iawn a wyddys amdano. Cyfeiria Lewis Morris ato fel "bardd crwydrol" a enillai ei fywoliaeth "yn ôl dull yr hynafiaid", h.y. trwy ganu mewn ffeiriau, gan ychwanegu iddo gael ei eni tua dechrau'r 18g. Bu farw rywbryd ar ôl 1779, efallai yn 1780.

Gwaith llenyddol

Er nad ydym yn gwybod fawr dim amdano, roedd Huw yn fardd hynod poblogaidd a ganodd gannoedd o gerddi. Roedd y rhain yn cynnwys baledi traddodiadol a charolau plygain. Cyhoeddwyd swm sylweddol o'i waith yn ystod ei oes, rhwng 1729 a 1779. Pamffledi a llyfrau bychain o faledi oedd llawer o'r rhain. Ond cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd mewn llyfr mwy sylweddol yogystal, sef Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759); cyfrol sy'n cynnwys gwaith Goronwy Owen, Ieuan Fardd, Rhys Jones o'r Blaenau ac eraill yn y rhan gyntaf a detholiad o waith Huw Jones ac eraill yn yr ail ran.

Golygodd Huw Jones y gyfrol Diddanwch Teuluaidd (1763). Cyfrol bwysig arall o waith Lewis Morris ac eraill o Gylch y Morysiaid.

Priodolir tair anterliwt i Huw Jones yn ogystal, sef 'Hanes y Capten Ffactor','(Anterliwt) Ar Ddull Ymddiddan rhwng Protestant a Neilltuwr,' a gyhoeddwyd yn 1783, a 'Histori'r Geinogwerth Synnwyr' am hanes gŵr priod godinebus.

Llyfryddiaeth

  • A. Cynfael Lake (gol.), Anterliwtiau Huw Jones o Langwm (Cyhoeddiadau Barddas, 2000). Astudiaeth gyda thestun golygiedig tair anterliwt, sef 'Hanes y Capten Ffactor', 'Histori'r Geiniogwerth Synnwyr' a 'Protestant a Neilltuwr'. ISBN 9781900437370

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 25 Jun 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Huw Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Reference sources
References
Huw Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes