Quantcast
peoplepill id: blwchfardd
B
1 views today
1 views this week
Blwchfardd
The basics

Quick Facts

Is Poet
Type Literature
Gender male
Birth Hen Ogledd
The details

Biography

Blwchfardd (fl. 6g?) oedd un o'r beirdd cynharaf yn y Traddodiad Barddol Cymraeg. Fe'i cysylltir â'r Hen Ogledd a'r Hengerdd. Roedd yn gyfoeswr i Aneirin a Taliesin.

Tystiolaeth amdano

Ni wyddys dim am y bardd ar wahân i'r ffaith ei fod yn fardd gynnar a ganai yn yr Hen Ogledd, yn ôl pob tebyg. Ceir y cyfeiriad cynharaf ato gan Nennius yn yr Historia Brittonum ar ôl nodyn am Ida, brenin Northumbria (547-579):

'Ar y pryd, yn yr amser hwnnw ymladdai Dutigirn (=Eudeyrn) yn wrol yn erbyn cenedl yr Eingl. Yr un adeg bu Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin (=Aneirin) a Thaliesin a Blwchfardd a Chian (a elwir Gwenith Gwawd) ynghyd yn yr un amser a fuant enwog mewn barddoniaeth Gymraeg.'

Mae'r enw barddol Blwchfardd (blwch + bardd) yn ymddangos yn un rhyfedd i ni heddiw, ond ystyr y gair blwch yma, yn ôl pob tebyg, yw 'lle caeëdig'. Ceir sawl cyfeiriad ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol at ymrysonau barddol, weithiau mewn cysylltiad â bueirth, ac ymddengys yn debygol mae rhyw darn o dir arbennig, efallai'n gysylltiedig ag ysgol farddol, yw'r blwch yn enw'r bardd.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 24 Jun 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
comments so far.
Comments
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes