peoplepill id: william-thomas-edwards
WTE
Wales
2 views today
2 views this week
The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet
A.K.A.
Gwilym Deudraeth W T Edwards W. T. Edwards
Places
was
Work field
Gender
Male
Place of birth
Caernarfon, Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom
Place of death
Liverpool, Liverpool, Merseyside, United Kingdom
Age
76 years
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd Cymraeg oedd William Thomas Edwards (21 Tachwedd 1863 – 20 Mawrth 1940), neu Gwilym Deudraeth, a gofir yn bennaf fel englynwr bachog a ffraeth.

Magwraeth

Ganed y bardd yn 'Hen Walia', yn nhref Caernarfon yn 1863 yn un o 11 o blant, ac fe'i magwyd ym mhentref Penrhyndeudraeth, Meirionnydd, Gwynedd. Cymerodd ei enw barddol o'r fro honno. Roedd yr awdures llyfrau plant, Fanny Edwards, yn chwaer iddo. Morwr oedd ei dad a dilynodd Gwilym ef ar un daith o Borthmadog i Ffrainc, ond bu'n sâl yr holl ffordd, diflasodd yn llwyr a rhoddodd y gorau i'r syniad o ddilyn ei dad i'r môr.

Treuliodd ei flynyddoedd gweithio cynnar ymmro Penrhyndeudraeth, gan weithio fel chwarelwr yn Chwarel yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ac wedyn fel gorsaf-feistr gorsaf y Dduallt ar Reilffordd Ffestiniog, lle cafodd fyw yn 'Dduallt House'. Mae nifer o'i englynion yn coffáu ei gyfnod ar y rheilffordd, ac yn tystio i ddiflastod gweithio yn ngorsaf unig y Dduallt (neu 'Rhosllyn', fel y'i gelwid ganddo). Pan adawodd unigeddau Rhosllyn a'i reilffordd sgwennodd yr englyn hwn:

Ciciwch fi i werthu cocos - neu hyrddiwch
Fi i Iwerddon i aros,
'Waeth ple, i rhywle, i Rhos!
Put me in Ynys Patmos!

Mae'r englyn ysgafn hwn yn dangos ffraethineb ei gymeriad a'i ddefnydd o iaith y cyfnod, yn hytrach na ieithwedd crefyddol a nodweddai'r cyfnod.

Priododd Harriet, o Lanferes, a symudodd y ddau i Lerpwl lle treuliodd weddill ei oes yn goryfed, yn aelod amlwg a thlawd o'r gymdeithas Gymraeg oedd yno.

Bu farw yn 1940. Ysgrifennodd ei nai, Trefor, gofiant iddo, Bardd yr Awen Barod; roedd Trefor yn Brifathro mewn ysgol breifat yn Llundain.

Llyfryddiaeth

Gwaith Gwilym Deudraeth

Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi:

  • Chydig ar Gof a Chadw (1926)
  • Yr Awen Barod (1943). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Llyfrau amdano

  • Trefor Edwards, Bardd yr Awen Barod - Gwilym Deudraeth a Theulu Cambrian View (2003)

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
William Thomas Edwards is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
William Thomas Edwards
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes