peoplepill id: william-jones-26
WJ
United Kingdom
2 views today
2 views this week
William Jones
Welsh Baptist minister 

William Jones

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh Baptist minister 
Work field
Gender
Male
Religion(s):
Place of birth
Brymbo, Wrexham County Borough, Wales, United Kingdom
Place of death
Fishguard, Pembrokeshire, Wales, United Kingdom
Age
60 years
The details (from wikipedia)

Biography

Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Roedd Y Parchedig William Jones (10 Awst 1834 – 24 Mawrth 1895) yn Weinidog yr Efengyl yn enwad y Bedyddwyr Cymreig.

Cefndir

Ganwyd Jones ym Mrymbo yn blentyn i John Robert Jones (Alltud Glyn Maelor), crydd ac emynydd a Mary ei wraig. Roedd yn frawd i'r bardd gwlad Noah T Jones a'r Parchedig John R Jones, Pontypridd.

Gyrfa

Dechreuodd Jones ei yrfa fel mowldiwr yng ngwaith Haearn Brymbo.

Derbyniwyd Jones yn aelod o eglwys y Bedyddwyr ym Mrymbo ar ddiwedd 1853. Dechreuodd bregethu ym 1855. Aeth i Athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd ym 1858. Ym 1860 cafodd ei ordeinio yn weinidog ar gapel Bedyddwyr Pen-y-fron, Sir y Fflint. Ar gychwyn 1864 derbyniodd alwad oddi wrth yr eglwys ym Margod, Sir Fynwy. Bu'n weinidog ym Margod am bum mlynedd cyn derbyn galwad i wasanaethu yn Hermon, Abergwaun ym 1869. Ym 1883 ymadawodd oddi yno, gan gymryd gofal Capel Cymraeg y Bedyddwyr yn Heol y Castell, Llundain. Ni fu ei arhosiad yn Llundain yn hir. Yn Ionawr 1885, dychwelodd i Hermon, Abergwaun, ac yno y bu am ddeng mlynedd olaf ei oes.

Gwasanaethodd fel Cadeirydd cymanfa Penfro'r Bedyddwyr ym 1878, a llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig ym 1894.

Roedd Jones yn nodedig am natur athronyddol ei bregethu ac yn arbennig am gyflwyno dylanwad yr athronydd Georg Wilhelm Friedrich Hegel i'w enwad. Roedd syniad Hegel o ddelfrydiaeth yn ddylanwad mawr ar ei weinidogaeth.

Roedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ar destunau fel ‘Prometheus,’ ‘John Bunyan,’ a ‘Charles Dickens.

Golygwyd cyfrol o'i bregethau hyn gan T. T. Jones, Caerdydd: Yr Angel Mawr a'r Llyfr Bychan (Llangollen, 1899), a chyhoeddwyd pigion o'i ddywediadau fel Drychfeddyliau Detholedig (Llundain, 1907)..’

Teulu

Roedd William Jones a Hannah ei wraig yn rhieni i dri mab

Marwolaeth

Bu farw yn Abergwaun yn 60 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Hermon.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
William Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
William Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes