William John Davies
Quick Facts
Biography
Nofelydd a dramodydd o Gymro oedd William John Davies (1888 - 1957), a gyhoeddai gan amlaf wrth yr enw Gwilym Peris (ac weithiau fel W. J. Davies yn achos ei ddramâu).
Ei fywyd a'i waith
Roedd yn frodor o Nantperis yn Arfon ond treuliodd ran helaeth ei oes yn byw yn nhref Caernarfon lle gweithiodd fel gard ar y rheilffordd.Roedd yn sosialydd brwd.Gwasanaethodd am gyfnod ar Gyngor Tref Caernarfon.
Fel llenor, roedd yn adnabyddus iawn yn lleol.Un o'r dylanwadau mawr arno oedd Anthropos (R. D. Rowlands), llenor poblogaidd a wasanaethai fel gweinidog Capel Hen Waliau, Caernarfon, lle bu Gwilym Peris yn aelod.Cyhoeddodd sawl nofel ar ei draul ei hun, i gyd wedi'u lleoli yn ardal Eryri.Nofelau byr rhamantaidd ydyn nhw, yn ôl chwaeth y cyfnod, ond maent yn cynnwys disgrifiadau cofiadwy o ardal Llanberis a bywyd y werin bobl gynt.Ysgrifennodd nifer o ddramâu hefyd a bu'n weithgar iawn ym myd y ddrama yn ardal Arfon, gan gynnal dosbarthiadau a darlithio.Cyfrannai erthyglau yn rheolaidd i'r papur sosialaidd Y Dinesydd Cymreig hefyd.
Llyfryddiaeth
Dramâu (detholiad)
- Bwlch-y-groes
- Y Llestr Gwannaf
- Y Merthyr
- Tewach Gwaed na Dŵr
- Y Tramp
Nofelau
- Rhamant Eryri (Hughes a'i Fab, 1923)
- Tonnau'r Nos (Caernarfon, d.d.)
- Tros Arw Bant a Bryn (Caernarfon, d.d.)
- Y Llwybr Unig (Caernarfon, d.d.)
Ffynhonnell
Dafydd Glyn Jones, 'Pwy oedd yr 'Hen Dramodwyr'?', Y Casglwr (Rhifyn 94, Gaeaf 2008).