peoplepill id: william-james-bill-rees
WJ"R
United Kingdom
1 views today
1 views this week
William James "Bill" Rees
(1914 – 1995)

William James "Bill" Rees

The basics

Quick Facts

Intro
(1914 – 1995)
Known for
, Y meddwl Cymreig
A.K.A.
W. J. Rees
Gender
Male
Birth
Place of birth
St Davids, United Kingdom
Death
Age
81 years
The details (from wikipedia)

Biography

Athronydd ac academydd o Gymro oedd William James "Bill" Rees (1914 – 1995) sy’n nodedig am ei gyfraniadau at ysgolheictod athronyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd William James Rees yn Nhyddewi a chafodd ei fagu ym Mhencaer, ger Abergwaun. Mynychodd Ysgol Uwchradd Tyddewi ac Ysgol Uwchradd Abergwaun. Yn ei arddegau, roedd yn bwriadu hyfforddi’n weinidog Cristnogol. Aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gyda chymorth ariannol ei gyn-athro yn Abergwaun, D. J. Williams.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd swydd yn darlithio ar faterion cyfoes i’r Fyddin Brydeinig. Derbyniodd radd athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg o Goleg Lincoln, Rhydychen yn 1948.

Gyrfa academaidd

Penodwyd Rees yn ddarlithydd cynorthwyol yn Adran Athroniaeth Aberystwyth yn 1948. Pan ddaeth ei gytundeb darlithio i ben yn 1951, nid adnewyddwyd ef, am fod ei daliadau comiwnyddol yn pryderu awdurdodau'r coleg. Am gyfnod bu'n symud yn ôl i fyw gyda'i fam yn Nhyddewi, ac yn gofalu am ei feibion, tra'r oedd ei wraig yn cynnal y teulu drwy weithio'n athrawes yn Welwyn Garden City.

Yn 1953 derbyniodd Rees gymrodoriaeth ymchwil yng Ngholeg Bedford, Llundain. Mewn byr amser cafodd swydd dros dro yn addysgu athroniaeth ym Mhrifysgol Leeds. Ar ôl tair blynedd, gwnaethpwyd ei swydd yn un barhaol, a threuliodd weddill ei yrfa academaidd yn Leeds. Fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd ac yn bennaeth dros dro yr adran, ac yn ddeon Cyfadran y Celfyddydau. Ymddeolodd o'i yrfa academaidd yn 1980.

Cyfraniadau at athroniaeth Gymraeg

Yn 1948, i ddathlu canmlwyddiant ers cyhoeddi’r Maniffesto Comiwnyddol gan Marx ac Engels, cyfieithodd Rees y gwaith hwnnw i'r Gymraeg ar gyfer Pwyllgor Cymreig y Blaid Gomiwnyddol. Ysgrifennodd y gyfrol am Lenin (1981) yng nghyfres y Meddwl Modern a golygydd y casgliad o ysgrifau Y Meddwl Cymreig (1995).

Bywyd personol a diwedd ei oes

Fe briododd Peggy James yn Hwlffordd yn 1943. Bu farw yn 81 oed.

Cyfeiriadau

  1. W. L. Gealy, "William James Rees (1914–1995)" yn Efrydiau Athronyddol cyfrol 59 (1996), tt. 1–5.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
William James "Bill" Rees is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
William James "Bill" Rees
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes