William Heneage Wynne Finch
Quick Facts
Biography
Roedd Syr William Heneage Wynne Finch (18 Ionawr 1893 – 16 Rhagfyr 1961) yn filwr Prydeinig ac yn dirfeddiannwr Cymreig.
Cefndir
Ganwyd Wynne-Finch yn Llundain ym 1893 yn fab i'r Is-Gyrnol Charles Arthur Wynne-Finch tirfeddiannwr Ystadau'r Foelas a Chefnamwlch a Maud Emily (née Chartis) ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn ysgol bonedd Eton
Priododd Gladys merch John I. Waterbury, Fairfield, New Jersey, UDA ym 1929. Ni fu plant o'r briodas.
Gyrfa
Ar ôl ymadael a'r ysgol ymunodd ar Fyddin Brydeinig fel is-gapten yn y Gwarchodlu Albanaidd ym 1912; cafodd ei ddyrchafu'n Gapten ym 1916 yn Gadfridog ym 1923 yn Is-gyrnol ym 1931ac yn Gyrnol ym 1935 cyn ymddeol o'r fyddin ym 1938.
Gwasanaethodd yn y brwydrau yn Ewrop trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf gan gael ei glwyfo ddwywaith. Enillodd yr Groes Filwrol (MC) am ei gwrhydri yn y rhyfel. Gwasanaethodd ym myddin yr Aifft o 1919 i 1925 a Lluoedd Amddiffynnol y Sudan o 1925 i 1926 gan gael ei anrhydeddu ag Urdd y Nil (Order of the Nile) .
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n swyddog hyfforddi yn y Fyddin Tiriogaethol o 1939 i 1940; bu'n gweithio yn y Swyddfa Ryfel o1940 i 1941 yn Cadlywydd byddin diriogaethol ogledd-ddwyrain Llundain 1941-1944 ac yn Is-gyrnol a chadlywydd y Gwarchodlu Albanaidd 1944 i 1945.
Gwasanaeth Cyhoeddus
Cymerai'r Cyrnol Wynne Finch diddordeb mawr ym myd amaeth. Gwasanaethodd fel llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; bu'n gadeirydd Pwyllgor Addysg Amaethyddol Sir Gaernarfon ac yn llywodraethwr Coleg Amaethyddol Glynllifon.
Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon o 1945 hyd ei farwolaeth ym 1961, fel Arglwydd Raglaw fe fu hefyd yn Custos Rotulorum y sir, yn rhinwedd y swydd honno fe fu'n weithgar i sicrhau sefydlu Gwasanaeth Archifau Sir Gaernarfon a thrwy wasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Archifau'r sir.