Wilf Roberts
Quick Facts
Biography
Arlunydd Cymreig o Ynys Môn oedd Richard Wilfred Roberts a adwaenid fel Wilf Roberts (1941 – 19 Medi 2016). Caiff ei ystyried yn un o artistiaid tirluniau Cymreig mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth.
Bywgraffiad
Cafodd ei eni yn Llanfaelog ym 1941 ac fe'i magwyd ar Fynydd Bodafon, Ynys Môn. Aeth i Ysgol Uwchradd Llangefni lle cafodd ei ysbrydoli gan ei athrawon celf oedd yn cynnwys Ernest Zobole a Gwilym Prichard. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Normal, Bangor ac yn 1962 symudodd i fyw i Croydon, Llundain, lle bu'n dysgu celf ac yn astudio'n rhan amser yng Ngholeg Celf Croydon.
Yn 1974, dychwelodd i Fôn gan weithio i'r cyngor a'r Adran Addysg. Er na fu'n arddangos am nifer o flynyddoedd, bu'n dal ati i beintio, gan gyfrannu ei waith a darlunio a chynllunio posteri ar gyfer elusennau cenedlaethol. Penderfynodd ymddeol yn 1996 er mwyn ymroi ei amser yn llwyr i beintio.
Ysbrydolwyd ei waith gan harddwch y tirlun o'i gwmpas ac erwinder y clogwyni a’r moroedd o amgylch Ynys Môn. Roedd yn peintio yn bennaf gyda olew ac acrylig, gyda lliwiau daearol yn sylfaen i'w bortreadau o hen ffermdai, bythynnod, capeli ac eglwys yr ynys.
Bu galw mawr am ei waith yn dilyn amryw o arddangosfeydd yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy ac yn ei oriel yn Llundain. Mae ei waith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn yr Hague, Paris, Efrog Newydd, Awstralia a Phrydain.
Bu farw yn ei gartref ar Ynys Môn, yn dilyn salwch, ar 19 Medi 2016.