peoplepill id: tyrnog
T
Wales
1 views today
1 views this week
Tyrnog
Welsh saint in the 6th-century

Tyrnog

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh saint in the 6th-century
A.K.A.
St Tyrnog
Places
Work field
Gender
Male
Place of birth
Kingdom of Gwynedd
Family
Siblings:
The details (from wikipedia)

Biography

Mynach o'r 6g oedd Tyrnog (enw llawn: Tyrnog ap Hawystl Gloff), a brawd Santes Marchell y ceir eglwys iddi ger Dinbych, 3 milltir i'r dwyrain, sef Eglwys Llanfarchell (neu'r 'Eglwys Wen'), Dinbych. Brawd iddo oedd Sant Deifar o Fodfari, gerllaw. Ceir ei enw hefyd yn "Rhos Dyrnog", Darowen, Cyfeiliog, Powys Wenwynwyn. Sant arall gydag enw tebyg yw Twrog. Noda Bonedd y Saint ei fod yn fab i Hawystl Gloff a Tywanwedd ferch Amlawdd Wledig. Ymddengys y cofnod cyntaf ohono fel 'Teyrnog'.

Ei wylmabsant yw 4 Ebrill ac ysgrifennwyd enw'r eglwys fel 'Llandernant' a cheir 'Llandeyrnog' cyn 1644, ond ym Peniarth MS 147 fe'i sillefir fel 'Llanddyrnoc' (c.1566) (RWM i.914). Mae'n bosib mai'r un yw Teyrnog a'r Gwyddel Sant Tigernach (St.Tigernach o Clones, neu Cluain Eóis yn y Wyddeleg), sydd a'i wylmabsant hefyd ar yr un dyddiad.

Eglwys Llandyrnog

Prif: Eglwys Sant Tyrnog

Cysegrwyd Eglwys Sant Tyrnog er cof amdano, nawddsant y plwyf; saif yng nghalon pentref Llandyrnog, yn Esgobaeth Llanelwy, Sir Ddinbych. Mae'n eglwys Gradd II* o'r 15g, (Rhif cyfeirnod OS: SJ0196665342). Ceir y cofnod cyntaf ohoni yn y Norwich Taxation o 1254.

Mae'r eglwys Ganoloesol hon yn un o bedair eglwys ganoloesol yn Nyffryn Clwyd a chredir fod yr adeilad presennol yn dyddio o'r 15g, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol iawn ac o bosibl yn Geltaidd. Adferwyd yr adeilad gan y pensaer Fictoraidd Eden Nesfield rhwng 1876 a 1878 ar gost o tua £3,000. Ar ochr ddwyreniol yr eglwys ceir ffenestr liw nodedig, yr unig un o'i bath yng Nghymru. Ceir y dyddiad 1682 ar un o'r bedd-gistiau yn y fynwent a chloc haul a wnaed yn Nhreffynnon gyda'r dyddiad 1749 arno.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Tyrnog is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Tyrnog
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes