Thomas Shankland
Quick Facts
Biography
Llyfrgellydd a hanesydd oedd Thomas Shankland (14 Hydref 1858 – 20 Chwefror 1927). Roedd yn frodor o Sanclêr, Sir Gaerfyrddin. Daeth yn adanbyddus am ei waith fel llyfrgellydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac am ei ddiddordeb fel hanesydd ym mudiadau crefyddol yr 17g a'r 18g, yn enwedig y mudiadau Anghydffurfiol a'r Methodistiaid cynnar.
Ar ôl treulio cyfnod fel gweinidog gyda'r Annibynnwyr yn Y Rhyl a'r Wyddgrug, cafodd ei apwyntio'n llyfrgellydd cynorthwyol yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1905. Mawr fu cyfraniad Shankland i dwf y llyfrgell ac enwir un o'r stafelloedd yno er ei anrhydedd. Yn rhyfedd ddigon, er i nifer o bobl ei adnabod fel "Llyfrgellydd Coleg y Prifysgol", arosodd yn llyfrgellydd cynorthwyol ar hyd ei yrfa
Un o ddisgyblion Shankland oedd yr hanesydd Thomas Richards, a chafodd annogaeth a chefnogaeth ymarferol ganddo i astudio gwaith y Piwritaniaid yng Nghymru. Cyhoeddodd Shankland ei hun sawl erthygl a chyfrol ar arweinwyr crefyddol yr 17g, yn cynnwys John Miles (John Myles), Stephen Hughes a John ap John.