Tea Cosy Pete
Quick Facts
Biography
Trempyn a drigai yn ninas Abertawe oedd Brian Burford (1949 - 26 Ionawr 2015) Cawsai ei adnabod orau o dan ei ffugenw Tea Cosy Pete am fod yr het a wisgai'n debyg i orchudd tebot. Roedd yn gymeriad cyfarwydd iawn i drigolion y ddinas a phan fu farw, codwyd dros £3,000 er mwyn cael cofeb iddo yn y ddinas.
Bywyd cynnar
Ganwyd Brian yng Nghaerfaddon ond symudodd i Abertawe pan oedd yn ei arddegau.. Mynychodd Ysgol Ramadeg Dinefwr yng nghanol y ddinas yn yr un cyfnod a chyn-Archesgob Caergaint, y Dr. Rowan Williams.
Honnir iddo fyw bywyd anghonfensiynol pan gafodd ei wrthod o Brifysgol Rhydychen ac wedi marwolaeth ei frawd. Treuliodd 30 mlynedd yn byw ar strydoedd Abertawe.
Marwolaeth
Yn Sgwar y Castell yng nghanol y ddinas ar 26 Ionawr 2015, dioddefodd Brian stroc. Cafodd ei ruthro i Ysbyty Treforys lle bu farw'n ddiweddarach.