Steffan Evans
Quick Facts
Biography
Comedïwr a diddanwr yn y Gymraeg a'r Saesneg yw Steffan Evans (ganwyd 1981). Magwyd ef yn Eglwyswrw yn Sir Benfro. Mynychodd Ysgol y Preseli, yng Nghrymych.
Gyrfa
Dechreuodd Steffan ei yrfa comedi ym mis Tachwedd 2015. Mae'n perfformio mewn nosweithiau meic agored i sesiynau mewn sioeau proffesiynnol ar draws Cymru a thu hwnt.
Bu'n berfformiwr cynorthwyol i Elis James ar ei daith yn 2017. Mae hefyd wedi teithio gyda sioe ar y cyd gyda Drew Taylor a Col Howard, Tales from Wales yn 2016-17. Mae wedi perfformio mewn sawl gŵyl gomedi gan gynnwys, Gwyliau Comedi: Machynlleth Caerdydd (2016), Castell Nedd (2016-17), Caerlŷr (Leicester, 2017), Caerfaddon (2017), Llwydlo (Ludlow, 2017), Merthyr Tudfulac Aberteifi. Mae hefyd wedi perfformio mewn sesiynau comedi, Stand Up For Wales.
Teledu
- Gwerthu Allan, S4C
- O'r Diwedd, S4C. Sioe ddychan diwedd y flwyddyn
- Sesh, eitemau byr ar-lein gan BBC Wales
Radio
- The Jamie Owen Show, BBC Wales
- The Rhod Gilbert Show, BBC Wales. Cyflwynydd gwadd.
Cystadlaethau
- Ffeinalist - Welsh Unsigned Stand Up Award 2016
- Ffeinalist - Stand up for Cider (Submarine Comedy) - 2017