Steffan Alun
Quick Facts
Biography
Comedïwr yn yr iaith Gymraeg a'r Saesneg yw Steffan Alun (ganwyd 1985). Magwyd ef yn Abertawe. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth.
Gyrfa
Dechreuodd berfformio fel comedïwr yn gyson yn 2011 gan gefnogi'r comedïwr Cymraeg a Chymreig arall, Elis James. Mae wedi perfformio rhediad llawn o sioeau yng Ngŵyl Caeredin ers 2015 ac mae'n wyneb adnabyddus yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth ers 2013. Cwblhaodd daith sioe un dyn, Romantic Comedy.
Mae wedi ymddangos ar S4C gan gynnwys ar gyfres Gigl yn 2013ac ar BBC Radio Cymru gan gynnwys cyflwyno sioe frecwast gyda Kevin Davies ar Radio Cymru Mwy, gorsaf beilot ar-lein cyn BBC Radio Cymru 2 yn 2016.
Yn ogystal â pherfformio mewn cyngherddau ar draws Prydain, mae hefyd yn ymddangos yn gyson yn nosweithiau Stand Up For Wales a gynhelir yn Abertawe ac sy'n cael eu trefnu gan fudiad Yes Cymru. Mae ganddo ei noson fisol ei hun yn Abertawe, ac mae'n un o feirniaid ac MC cystadleuaeth flynyddol y Welsh Unsigned Stand-up Awards.
Arddull
Mae'n perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg gan drafod bywyd bob dydd, Cymreictod a byd-olwg Cymreig a synfyfyrdodau swreal.
Teulu
Mae'n fab i'r diweddar Siôn Alun, Gweinidog yn Abertawe ac ymgyrchydd dros hawliau ac addysg iaith Gymraeg.
Dolenni
- Steffan Alun ar YouTube
- Steffan Alun ar Facebook
- Steffan Alun ar Twitter
- Proffil ar wefan Glee