Sir James Hamlyn-Williams, 3rd Baronet
Quick Facts
Biography
Roedd Syr James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig (25 Tachwedd 1790 - 10 Hydref 1861) yn dirfeddiannwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin ar ddau achlysur rhwng 1831 a 1832 ac wedyn rhwng 1835 a 1837
Bywyd Personol
Ganwyd Syr James yn fab hynaf i Syr James Hamlyn-Williams, 2il Farwnig, a Dianne Anna (née Whittaker) ei wraig; merchAbraham Whittaker, marsiandiwr o Stratford, Swydd Essex.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Caerwynt rhwng 1802 a 1806.
Ym 1823 priododd y Ledi Mary Fortescue, Merch Hugh Fortescue, Iarll Cyntaf Fortiscue; bu iddynt tair merch.
Gyrfa
Gwasanaethodd fel milwr yng Nghatrawd y 7fed Hwsâr rhwng 1810 a 1823 gan wasanaethu fel is gapten o 1810 i 1813, Capten o 1813 i 1821 ac Uwchgapten o 1821 hyd ei ymddeoliad o'r fyddin sefydlog ym 1823.
Bu'n ymladd yn Rhyfel Iberia gan gael ei grybwyll mewn cadlythyrau am ei wasanaeth ym mrwydrau Orthes, Barcelona a Toulouse.
Ym 1829 etifeddodd barwnigaeth ac ystâd ei dad, gan ymgymryd â dyletswyddau tirfeddiannwr bonheddig.
Gwasanaethodd fel Cyrnol Milisia Swydd Dyfnaint, Dirprwy Raglaw Dyfnaint ac fel Uchel Siryf Sir Caerfyrddin ym 1848
Gyrfa etholiadol
Safodd etholiad ym 1831 yn enw'r gleision sef cefnogwyr y Chwigiaid yng ngorllewin Cymru. Bu'n ymgyrchu o blaid diwygio'r etholfraint, am gael gwared â'r dreth ar frag, sebon a chanhwyllau, am wrthwynebu caethwasanaeth ac am economi rhydd. Bu'n canfasio ym mhell cyn i'r etholiad cael ei alw'n swyddogol ac, o weld y tebygrwydd o gael ei drechu penderfynodd deiliad y sedd, George Rice-Trevor, i beidio ail sefyll, gan ganiatáu i Hamlyn-Williams cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad.
Wedi pasio'r Ddeddf Diwygio Mawr ym 1832 rhoddwyd ail sedd seneddol i Sir Gaerfyrddin, ac roedd Hamlyn-Williams yn sicr y byddai o fel ymgeisydd y gleision a Rice-Trevor fel ymgeisydd y cochion (cefnogwyr y Torïaid) yn rhannu'r ddwy sedd yn ddiwrthwynebiad; ond fe sicrhaodd Rice-Trevor bod ymgeisydd Chwig swyddogol yn sefyll yr etholiad hefyd sef Edward Hamlyn Adams a gan hynny daeth Hamlyn-Williams yn drydydd a cholli ei sedd.
Yn etholiad 1835 sicrhaodd cefnogaeth Rice-Trevor a'r Blaid Ryddfrydol i sefyll fel ymgeisydd swyddogol ar ran y Rhyddfrydwyr a llwyddodd i gipio'r ail safle ac ennill yr ail sedd, ond collodd cefnogaeth Rice-Trevor eto am gefnogi diwygio bellach ar yr etholfraint a chollodd pleidleiswyr rhyddfrydol oedd yn rhydd o ddylanwad yr ystadau trwy beidio a mynd yn ddigon pell yn ei gefnogaeth i ddiwygio, a chollodd ei sedd eto ym 1837.
Penderfynodd beidio sefyll eto.
Marwolaeth
Bu farw yn ei gartref yn Clovelly ym Mis Hydref 1861 yn 70 mlwydd oed. Gan nad oedd ganddo fab i etifeddu'r teitl bu farw'r farwnigaeth gydag ef.
Cyfeiriadau
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: George Rice Trevor | Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1831 – 1832 | Olynydd: Edward Hamlyn Adams |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Edward Hamlyn Adams | Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1835 – 1837 | Olynydd: John Jones, Ystrad |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: James Hamlyn-Williams, 2il Farwnig | Barwnigaeth Hamlyn-Williams 1829 – 1861 | Olynydd: difodiant |