Sian Northey
Quick Facts
Biography
Awdur o Drawsfynydd yw Sian Northey.
Astudiodd am radd mewn Swoleg. Ar ôl nifer o swyddi, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio fel awdur, bardd a golygydd ar ei liwt ei hun. Mae'n sgwennwr llawrydd gan ysgrifennu ffuglen, ar gyfer plant ac oedolion, a barddoniaeth. Mae hefyd yn gyfieithydd ac yn cynnal gweithdai ysgrifennu o bob math gyda diddordeb arbennig yn y cyswllt rhwng llenyddiaeth ac iechyd a llesiant. Yn ddiweddar mae wedi ennill doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Tywysogion ac wedi ennill Coron Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a chadeiriau Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.
Cyhoeddiadau
Mae Sian wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys y canlynol;
- Yn y Tŷ Hwn (2011)
- Rhyd y Gro (2016)
- Perthyn (nofel Sian Northey) (2019)
- Trwy Ddyddiau Gwydr (2013)
Cyfeiriadau
- ↑ "www.gwales.com - 1848511582". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Sian Northey ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |