Samuel Cornelius Jones
Quick Facts
Biography
Darlledwr Cymraeg cynnar oedd Samuel Cornelius Jones (13 Medi 1898 – 13 Medi 1974) neu Sam Jones a anfarwolwyd yn y linell gynganeddol "Babi Sam yw'r BBC".
Yng Nghlydach y ganwyd Sam, ar 13 Medi, ac ar yr union ddiwrnod hwnnw yn 1974 y bu farw. Yn 16 oed ymunodd gyda'r Llynges yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cyn gweithio'n athro yn Lerpwl. Gweithiodd i'r Western Mail wedi iddo ddychwelyd i De Cymru cyn ymuno gyda'r BBC yng Nghaerdydd. Gweithiai'n frwd dros ehangu darlledu Cymraeg ar y radio ac ef agorodd Stiwdio Bryn Meirion, ym Mangor, Gwynedd.
Sam Jones oedd yn gyfrifol am ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd y BBC erioed, ac a oedd yn dal i gael eu darlledu yn 2016: Noson Lawen a Thalwrn y Beirdd. Gwelodd bwysigrwydd defnyddio pobl gyffredin yn hytrach nag actorion profesiynol yn y ddwy raglen hyn. yn ôl R Alun Jones, "Cyfrinach Sam Jones oedd cael pobl y Gogledd i weld gorsaf Bangor fel rhywbeth oedd yn perthyn iddyn nhw. Doedd hynny ddim yn bosib mewn cymunedau fel Abertawe a Chaerdydd."
Cyfansoddodd y bardd W. D. Williams gywydd iddo ar gyfer rhaglen goffa iddo ac a ddarlledwyd yn 1974:
- Ei ail byth mwy ni welwn,
- Gwelwodd haf pan giliodd hwn,
- Drud fu ei fachlud dros Fôn,
- Farwn Mawr o Fryn Meirion.
- Tlawd yw 'nheyrnged, ddyledwr,
- Un o fil, i'w haealf ŵr.
Gweler hefyd
- Stand By! cyfrol deyrnged iddo gan R. Alun Evans.