Rhiangar
Quick Facts
Biography
Santes o'r 5g oedd Rhiangar ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog. Roedd ganddi fab, Cynidr, oedd yn etifedd iddi. Ni wyddom enw ei dad ef. Roedd tiroedd Rhiangar yn ne Brycheiniog a gorllewin Henffordd.
Diffyg Cysegriadau
Ar wahân i eglwys yn Llech ym Maelienydd nid oes eglwysi sy'n parhau i ddwyn enw Rhiangar. Cyfeirir mewn hen ddogfennau at "lannau Rhiangar a Chynidr", a ail-gysegrwyd i Fair, mam Iesu yn ddiweddarach. Ond ceir eglwysi sy'n dwyn enw ei mab: Llangynidr ym Mhowys ac Abersychir a Llanywern ble gelwir yr eglwysi yn "Eglwys Fair a Cynidr. Yn Nghantref ac yn Kenderchurch (eglwys Cynidr) mae'r cysegriad presennol hefyd wedi'i newid i Fair. Pan drosglwyddwyd awdurdod dros yr eglwys yn y Clas ar Wy i fynachdy Sant Pedr, Caerloyw yn 1088 cyfeiriwyd ati fel "eglwys sant Cynidr. Heddiw gelwir hi yn eglwys Sant Pedr.
Mae Rhiangar yn enghraifft o santes sydd bron wedi mynd yn anghof oherwydd y tuedd Normanaidd i ail-gysegru eglwysi.
Gweler hefyd
- Santesau Celtaidd 388-680