peoplepill id: robert-williams-11
RW
United Kingdom
1 views today
1 views this week
Robert Williams
Welsh clergyman and antiquarian, born 1810

Robert Williams

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh clergyman and antiquarian, born 1810
Gender
Male
Religion(s):
Place of birth
Conwy, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
Age
70 years
Education
Christ Church
Shrewsbury School
The details (from wikipedia)

Biography

Am bobl eraill o'r un enw gweler Robert Williams (gwahaniaethu).

Clerigwr a hynafiaethydd o Gonwy oedd Robert Williams (29 Mehefin 1810 – 26 Ebrill 1881).

Bywgraffiad

Ganed Robert Williams yn fab i Robert Williams, ficer Conwy, yn y flwyddyn 1810. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Biwmares ac Ysgol Ramadeg Amwythig cyn mynd yn ei flaen i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd yn MA yn 1832.

Cafodd ei benodi'n ficer Llangadwaladr a Rhydycroesau (ger Croesoswallt) yn fuan ar ôl graddio a bu aros yno am ddeugain mlynedd. Ond roedd ei galon yng Nghymru ac ymroddodd i astudio hynafiaethau, hanes a llên ei wlad. Cyfieithodd cerddi Llyfr Taliesin ar gyfer The Four Ancient Books of Wales gan William Forbes Skene; er yn wallus roedd yn ymgais clodwiw am ei gyfnod. Gweithiodd gyda G. Hartwell Jones i olygu Selections from the Hengwrt Manuscripts. Yn 1865 cyhoeddodd eiriadur Cernyweg-Saesneg, un o'r cyntaf o'i fath. Symudodd i bentref Craven Arms ger Llwydlo yn 1879 a bu farw yno yn 1881.

Hynafiaethydd

Mae ei gyhoeddiadau pwysicaf yn cynnwys y Biography of Eminent Welshmen (1836), sydd efallai'r bywgraffiadur gorau yng Nghymru cyn cyhoeddi Y Bwygraffiadur Cymreig hyd 1940 gan y Cymmrodorion. Ymddiddorai'n fawr yn hanes ei fro enedigol yn ogystal ac yn 1835 cyhoeddoedd ei gyfrol werthfawr The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood, sy'n rhoi hanes ardal Conwy a'r Creuddyn.

Llyfryddiaeth

  • The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood (Dinbych, 1835)
  • Biography of Eminent Welshmen neu Eminent Welshmen (1836)

Cyfeiriadau

Dolen allanol

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Robert Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Robert Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes