peoplepill id: robert-roberts-15
RR
Wales
1 views today
1 views this week
Robert Roberts
Welsh folk singer, called Bob Tai'r Felin

Robert Roberts

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh folk singer, called Bob Tai'r Felin
A.K.A.
Bob Tai'r Felin
Places
Work field
Gender
Male
Age
81 years
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd Robert Roberts (Bob Tai’r Felin), (1 Medi 1870 - 30 Tachwedd, 1951) yn amaethwr, melinydd, bardd, eisteddfodwr a chanwr gwerin Gymreig.

Bywyd Personol

Ganwyd Bob yn Nhai’r Felin, Cwtirmynach ger y Bala, yn fab i Cadwaladr Roberts, melinydd, a Betsi (neé Rowlands) ei wraig.

Ar 5 Medi, 1901 priododd Elizabeth Jane Roberts, fferm y Frongoch yng Nghapel Tegid y Bala, bu iddynt tri o blant.

Gyrfa

Olynodd ei dad i weithio fel melinydd ac amaethwr. Gwasanaethodd fel blaenor, athro ysgol Sul a chodwr canu capel y Presbyteriaid, Cwmtirmynach.

O oedran ifanc dechreuodd cyfrannu i ddiwylliant ei fro gan gyfrannu yn gyson mewn eisteddfodau a chyngherddau. Profodd yn hynod boblogaidd fel perfformiwr lleol. Er enghraifft ceir adroddiad canlynol amdano’n diddanu yng Ngŵyl y Delyn, y Bala ym 1914 "Y peth mwyaf poblogaidd o'r cwbl yn y cyngerdd oedd gwaith Mr. Robert Roberts, Tai'r Felin, yn datgan caneuon gwerin. Yr oedd pob un o'r gynulleidfa yn ei ddwbl gan chwerthin ar hyd yr amser, a chlywsom un yn cwyno i'w ystlysau bore heddyw (dydd Llun). Er iddo ail a thrydydd ganu, 'doedd dim diwedd ar alwadau'r dorf".

Ym 1931 daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y gan werin yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Wedi ei fuddugoliaeth eisteddfodol ffurfiodd Parti Tai’r Felin gyda Robert Lloyd (Llwyd o’r Bryn), John Thomas, Lizzie Jane Thomas a Harriet (merch Bob Tai’r Felin). Bu’r parti yn diddanu ar lwyfannau trwy Gymru gyfan ac ambell un yn Lloegr.

O 1944 bu’n cyfrannu’n gyson i raglen radio Sam Jones y Noson Lawen. Ym 1949 cyfrannodd i ffilm a gyhoeddwyd yn y Gymraeg gyda’r teitl Noson Lawen ac yn y Saesneg gyda’r teitl The Harvest. Bu’n un o berfformwyr Cymraeg cynharaf i ganu ar deledu’r BBC gan ganu Mari Bach fy Nghariad o Hafod y Rhiw mewn cyngerdd byw a ddarlledwyd o’r Alexandra Palace yn Llundain . Yn ôl cwmni Recordiau Sain Mae'n bosib dweud mai Bob Roberts, o Dai'r Felin ger Fron-goch, y Bala, oedd canwr pop cyntaf y Gymraeg! ... Tyrrai'r bobl i'w glywed, ac yr oedd yn ffefryn arbennig gan y merched, a fynnai gael ei lofnod; roedd Bob-mania yn rhagflaenu Beatlemania o ddau ddegawd.

Marwolaeth

Bu farw Bob yn ei gartref ym 1951 yn 71 mlwydd oed a rhoddwyd ei olion i orffwys ym mynwent Llanycil. Ym 1961 agorodd Llwyd o’r Bryn cronfa i dalu am gofeb iddo. Crëwyd y gofeb gan Jonah Jones ac mae bellach i’w gweld ar y ffordd wrth giât Tai’r Felin.

Recordiau

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon Bob Roberts (Tai'r Felin)

Cyhoeddodd Bob Roberts a’i gyfeillion nifer o recordiau gyda chwmnïau Decca a Teledisc. Yn 2010 cyhoeddodd Cwmni Sain CD yn cynnwys 21 o’r recordiau oedd wedi goroesi.

Bu recordiau a darllediadau Bob a Pharti Tai’r felin yn gyfraniad enfawr i ddiogelu caneuon gwerin megis Moliannwn, Gwenno Penygelli, Pan fu Bes yn Teyrnasu ac ati.

Rhagor o glipiau o Bob Roberts ar Gomin Wicimedia

Llyfryddiaeth

Ym 1959 golygodd Haydn Morris casgliad o ganeuon Bob mewn llyfr o’r enw “Caneuon Bob Tai’r Felin” a gyhoeddwyd gan gwmni Snell a'i Feibion.

Ym 1965 traddododd y Parch Robin Williams darlith yn y Coleg Normal, Bangor o’r enw Y Tri Bob a oedd yn trafod bywyd a gwaith Bob Owen (Croesor), Bob Lloyd (Llwyd o’r Bryn) a Bob Tai’r Felin. Cyhoeddwyd y ddarlith ar ffurf record gan gwmni Welsh Teledisc ac ar ffurf llyfr gan Lyfrau poced Gomer.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Robert Roberts is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Robert Roberts
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes