Richard Roberts
Quick Facts
Biography
Nofelydd, ffermwr a bardd o Gymru oedd Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart, neu GR 1810 - 25 Gorffennaf 1883).
Cafodd ei eni yn fferm Diosg, Llanbrynmair ym 1810. Cofir am Roberts yn bennaf fel awdur.
Roedd yn un o feibion John Roberts, gweinidog yr Hen Gapel, Llanbrynmair aMary, (née Breese) ei wraig. Roedd John Roberts a'i feibion Samuel Roberts (SR), John Roberts (JR) a GR yn gyfrifol am roi enw i Lanbrynmair fel un o ganolfannau Anghydffurfiaeth, Rhyddfrydiaeth a llenyddiaeth pwysicaf Cymru'r 19 ganrif.
Fe gafodd GR ei fagu ar gyfer gwaith y fferm, ac nid oedd ganddo lawer o fanteision addysgol. Fel ei frodyr roedd ganddo chwaeth lenyddol gref. Roedd yn bregethwr lleyg yn enwad yr Annibynwyr. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith a phenillion ar gyfer Y Cronicl a chylchgronau eraill. Roedd yn awdur nofel o’r enw Jeffrey Jarman, y meddwyn diwygiedig.Mae ei gerdd, Cân y Glep , a ymddangosodd yn Y Cronicl ym mis Tachwedd 1855, yn enghraifft wych o ddychan Cymreig. Ar 3 Chwefror 1853 priododd Anne Jones, o Gastell Bach, Rhaeadr Gwy, bu iddynt un ferch. Ymfudodd y teulu i Tennessee ym 1856, lle adeiladodd GR bwthyn coed o'r enw Brynffynnon lle buont yn ymgartrefu fel ffermwr. Dychwelodd i Gymru ym mis Medi 1870 ac ymddeolodd i Brynmair, Conwy. Bu farw 25 Gorffennaf 1883 ym Mrynmair; bu farw ei wraig ar 5 Mai 1886; priododd eu hunig blentyn, Margaret, â John Williams, Conwy.