Ria Jones
Quick Facts
Biography
Cantores o Gymraes yw Ria Jones (ganwyd 8 Mawrth 1967). Mae'n adnabyddus am berfformio mewn sioeau cerdd yn West End Llundain a chyngerddau yn rhyngwladol.
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd Ria yng Nghwmdu yn chwaer iau i Ceri Dupree. Yn blentyn byddai ei rhieni yn mynd รข hi a'i brawd i weld y pantomeim blynyddol yn Theatr y Grand, Abertawe, a datblygodd ei chariad at fyd y theatr. Dysgodd ddawnsio tap yn ysgol Phyllis Jones yn Fleet Street, Abertawe a chafodd berfformio yn theatr y Grand yn ddeng mlwydd oed pan fe'i dewiswyd i chwarae un o'r 'Babes' yn Cinderella gyda Clive Dunn yn 1977/78.
Gyrfa
Yn 19 oed daeth yr actores ieuengaf erioed i chwarae rhan Eva Peron yn sioe gerdd Evita ac yna ymddangosodd yn y West End am y tro cyntaf yn sioe Chess, lle chwaraeodd rannau Svetlana a Florence. Aeth ymlaen i chwarae Grizabella yn Cats am ddwy flynedd yn y New London Theatre.
Disgyddiaeth
- ABBAphonic (albwm, RPOSP029, 2011)
- Have You Met Miss Jones? (albwm, 2011)
- It's Better With A Band (albwm, 2012)
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Gwefan Swyddogol
- Ria Jones ar wefan Internet Movie Database
- Ria Jones ar Twitter