peoplepill id: rhian-morgan
RM
Wales
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

Intro
Welsh actress
A.K.A.
Rhian Lloyd Morgan
Places
Gender
Female
Place of birth
Cwm Tawe, Neath Port Talbot, Wales, United Kingdom
Education
Aberystwyth University
Aberystwyth, Ceredigion, United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Actores a digrifwraig Gymraeg yw Rhian Morgan. Ganwyd hi yng Nghwm Tawe.

Gyrfa

Astudiodd Rhian ddrama ym Mhrifysgol Aberystwyth lle daeth o dan ddylanwad y ddiweddar Emily Davies. Bu'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd am gyfnod, ond mae bellach yn byw yn Llandeilo. Mae'n briod â'r cyflwynydd Aled Samuel ac mae ganddynt ddau fab, Ifan (g. 1995) a Mabon (g. 2002).

Daeth yn adnabyddus yn yr wythdegau am y cymeriad Carol Gwyther yn Pobol y Cwm gan adael y gyfres yn 1990. Ar ddechrau'r nawdegau roedd yn un o'r perfformwyr ar y gyfres deledu ddychanol Pelydr X ar S4C. Yn 2004 fe chwaraeodd ran Val Vivaldi yn y gyfres ddrama deledu fer Mine all Mine, a ysgrifennwyd gan Russell T. Davies, a'i darlledu ar ITV1.

Yn 2014, enillodd wobr yr Actores Orau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru am ei rhan fel Eileen Beasley yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Dyled Eileen.

Roedd yn chwarae Gwen Lloyd yng nghyfres ddrama Gwaith/Cartref ar S4C, ac yn 2015 enillodd wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau am ei rhan yn y gyfres.

Soniodd ar raglen Beti a'i Phobol ym mis Ionawr 2023 ei bod wedi cael tröedigaeth ryw bum mlynedd ynghynt a'i bod bellach yn hyfforddi i fod yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Menu Rhian Morgan

Basics

Introduction

Gyrfa

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Filmography (22)

Lists

Also Viewed

Lists
Rhian Morgan is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Rhian Morgan
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes