R.E. Griffith
Quick Facts
Biography
Roedd Robert Emrys Griffith (5 Hydref 1911 - 25 Tachwedd 1975), adnebir fel rheol fel R.E. Griffith,yn Gyfarwyddwr Urdd Gobaith Cymru ac awdur tair cyfrol ar hanes y mudiad.
Cefnogwr cynnar
Addysgwyd R.E. Griffith yn Ysgol Ramadeg Aberpennar. Tra roedd yn ddisgybl yno gydag Walter P. John, sefydlodd y gangen gyntaf o Urdd Gobaith Cymru yn ne Cymru, a hynny yn Abercynon.
Bu'n ffyddlon iawn i'r Urdd, a daeth maes o law, yn gyfarwyddwr arni. Ysgrifennodd dair gyfrol ar hanes y mudiad o'i sefydlu y 1922 hyd at ei dathliad hanner can mlwyddiant yn 1972. Ceir y cyfrolau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
R.E. Griffith ac Arwisgiad 1969
Gan i'r Urdd dderbyn gwahoddiad i fod yn rhan o ddathliadau Arwisgo'r Tywysog Siarl yn 1969 gofynwyd i R.E. Griffith gynrychioli'r mudiad ar bwyllgor a sefydlwyd gan Fwrdd Croeso Cymru i gydlynnu digwyddiadau.
Yn ystod y gwrthdarro dros ac yn erbyn Arwisgiad 1969 bu iddo fod yn chwyrn ei feirniadaeth o Llion Roberts, Golydydd papur Y Cymro. Roedd Roberts wedi canmol y Tywysog Siarl ar ei ddarlleniad Cymraeg yn y seremoni ym mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth, 1969 ond wedi canmol hefyd egwyddorion y bobl a gerddodd allan o'r pafiliwn wrth i'r tywysog ddechrau siarad. Doedd R.E. Griffith ddim yn cytuno ag hynny.
Gwasanaethu
Bu i Griffith gynrychioli'r Urdd fel rhan o ddirprwyaeth fwy o sefydliadau Cymraeg yn galw am ragor o ddarlledu teledu yn y Gymraeg. Roedd yn un o'r rhai aeth i gwrdd gyda chynrychiolwyr cwmni teledu TWW ym mis Gorffennaf 1958 i gryfhau darpariaeth iaith Gymraeg ar y teledu.
Gwaddol
Cymaint bu gwaddol R.E. Griffiths fel yn 2017 i'r Urdd hysbysebu swydd i berson greu archif ddigidol o hanes y mudiad ers 1972 - blwyddyn olaf llyfr fawr R.E. Griffith ar y mudiad.
Cyhoeddiadau
- Urdd Gobaith Cymru: Cyfrol 1 1922-1945 Cwmni Urdd Gobaith Cymru (1971) ASIN: B002FW8274
Dolenni
- Gohebiaeth R.E. Griffith yn archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Llythyrau R.E. Griffith, 1952-62 at Syr Ifan ab Owen Edwards yn archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyfeiriadau
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Kew, Llundain; Cofrestr 1939; Cyf: RG 101/7555B
- ↑ https://archives.library.wales/index.php/llythyrau-200
- ↑ The Guardian 26 Tachwedd, 1975; Welsh youth leader dies
- ↑ https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JOHN-PHI-1910
- ↑ https://books.google.co.uk/books?id=REv2CQAAQBAJ&pg=PT93&lpg=PT93&dq=R.E.+Griffith+urdd&source=bl&ots=DcQPOVY-R7&sig=ACfU3U1T0L9SbHBd7xErMQrHBKxzTyUNQA&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwifx8nHhJLlAhXRnVwKHczCDlQ4HhDoATADegQIBhAE#v=onepage&q=R.E.%20Griffith%20urdd&f=false
- ↑ https://www.bbc.co.uk/wales/history/sites/investiture/pages/investiture-remembering-1969-part3.shtml
- ↑ https://books.google.co.uk/books?id=mb2rDwAAQBAJ&pg=PT125&lpg=PT125&dq=%22R.E.+Griffiths%22+Urdd&source=bl&ots=t5XH09X6hj&sig=ACfU3U3s- 5jGT3W5ThXOz83MLWUOXnAfEQ&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwjo2tSu-I7lAhVXiFwKHRsgBkgQ6AEwDXoECAkQBA#v=onepage&q=%22R.E.%20Griffiths%22%20Urdd&f=false
- ↑ https://www.lleol.cymru/blog/yr-urdd-yn-chwilio-am-unigolyn-i-greu-archif-ddigidol-o-hanes-y-mudiad.html/