Peter Edwards
Quick Facts
Biography
Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu o Gymro oedd Peter Merfyn Edwards (Hydref 1947 – 11 Medi 2016). Gweithiodd ar amryw o raglenni teledu a ffilmiau yn Gymraeg a Saesneg.
Bywgraffiad
Ganwyd yn Y Fflint a fe'i magwyd yn Nghilcain, Sir y Fflint. Ei dad oedd yr actor ac awdur Meredith Edwards a'i fam oedd Daisy Clark. Aeth i Ysgol Ramadeg Alun yn yr Wyddgrug ac aeth i wneud gradd Drama/Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Hull. Bu'n byw yng Nghaerdydd ers canol y 1970au.
Roedd yn briod gyda Delyth a roedd ganddynt ddau o blant. Bu farw yn ei gartref yn 68 oed.
Gyrfa
Cychwynnodd fel 'roadie' ar gyfer cwmni theatr Hull Truck Theatre cyn gweithio am flwyddyn fel athro drama ym Merthyr Tydfil. Yna ymunodd a BBC Cymru lle cyfarwyddodd rhaglenni cerddoriaeth pop a drama yn cynnwys Bowen a'i Bartner ar gyfer S4C. Cyfarwyddodd y ddrama arobryn Penyberth ar gyfer BBC Cymru yn 1985 cyn ymuno a thîm cychwynnol yr opera sebon EastEnders. Fe ffurfiodd ei gwmni cynhyrchu annibynnol Lluniau Lliw yn 1986, cwmni a gynhyrchodd nifer o raglenni drama i S4C yn yr 1980au a 1990au, yn cynnwys cyfresi Yr Heliwr, Mwy na Phapur Newydd, a'r ffilm Pum Cynnig i Gymro.
Bu hefyd yn bennaeth drama ac uwch-gynhyrchydd gyda ITV Cymru rhwng 1998 a 2009 a gweithiodd ar y ddrama Nuts and Bolts. Roedd yn gynhyrchydd ar y cyd i'r ffilm A Way of Life (2004), a enillodd yr "Alfred Dunhill UK Film Talent Award" yng Ngwyl Ffilmiau Llundain 2004. Yn fwy diweddar cyd-sefydlodd y cwmni annibynnol Barefoot Rascals a gynhyrchodd nifer o raglenni adloniant ffeithiol ar gyfer ITV Cymru.
Edwards oedd cadeirydd cyntaf Ffilm Cymru a bu'n gadeirydd ar TAC, y corff sy'n cynrychioli cynhyrchwyr annibynnol.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Peter Edwards ar wefan Internet Movie Database
- Cyfweliadau gyda Peter Edwards am ei waith a'i yrfa ar Borth y Coleg Cymraeg