Pegi Talfryn
Quick Facts
Biography
Awdur a tiwtor Cymraeg yw Pegi Talfryn (ganwyd 1956/1957).
Bywyd cynnar ac addysg
Fe'i ganwyd yn Seattle, Talaith Washington. Er nid oedd ganddi unrhyw gefndir Cymreig roedd eisiau dod i Gymru ers yn ifanc a phenderfynodd ddod draw i astudio Cymraeg ym Mhrifysgl Llanbedr Pont Steffan a graddiodd yn 1979. Aeth ymlaen i wneud cwrs ysgrifenyddol dwyieithog yng Ngholeg Technegol Gwynedd, Bangor a chwrs ymarfer dysgu yn y Brifysgol ym Mangor.
Arhosodd yng Nghymru wedi cyfarfod ei gŵr, Ioan Talfryn.
Gyrfa
Gwnaeth amrywiaeth o swyddi: dysgu prosesu geiriau Cymraeg a Gofal Plant yng Ngholeg Y Rhyl, Llandrillo; hyfforddi cynorthwywyr dosbarth yn y gymuned; ysgrifennu cyrsiau Cymraeg; athrawes gynradd; Swyddog y Dysgwyr gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. Rhwng Jan 2010 – Oct 2015 roedd yn Reolwr Addysg yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn.
Awdur
Hi yw awdur Gangsters yn y Glaw (2018) Gwasg Gomer - rhan o gyfres Amdani ar gyfer dysgwyr.
Bywyd personol
Mae hi’n mwynhau ysgrifennu storïau i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae hi’n byw yn Waunfawr efo’i gŵr, Ioan ac mae ganddynt tri o blant.
Mae hi’n hoffi darllen llyfrau ditectif, cerdded, dysgu ieithoedd a chanu.
Cyfeiriadau
Awdurdod |
|
---|---|
Awdurdod |
|