peoplepill id: osian-owen
OO
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

The details (from wikipedia)

Biography

Bardd a llenor Cymreig o'r Felinheli yw Osian Wyn Owen.

Barddoniaeth

Fis Hydref 2018, cymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru ar y cyd â Manon Awst, Caryl Bryn a Morgan Owen. Graddiodd â BA o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn 2018, cyn dechrau astudio am radd MA yno.

Derbyniodd nawdd o gronfa Barddas er cof am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ym Mai 2019 i fynychu cwrs ar y gynghanedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Cystadlu

Enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Aelhaearn yn Nhachwedd 2017. Ef oedd enillydd y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Ryng-golegol Llanbedr Pont Steffan 2018. Yn ystod yr un flwyddyn, aeth yn ei flaen i gipio'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed, am ddilyniant o gerddi serch ar y testun 'Bannau' Daeth yn agos i'r brig eto y flwyddyn ddilynol, wrth iddo ddod yn drydydd am gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019, un o dri oedd yn deilwng yn y gystadleuaeth. Enillodd brif wobr farddoniaeth Eisteddfod-T, eisteddfod ddigidol yr Urdd a gynhaliwyd yn 2020 yn ystod y pandemig COVID-19. Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Prif Lenor yr yr un eisteddfod.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Osian Owen is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Osian Owen
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes