Naomi Jones
Quick Facts
Biography
Mae Naomi Jones (ganwyd Tachwedd 1955) wedi bod yn weithwraig yn y diwydiant darlledu yng Nghymru ers canol yr 1970au. Bu'n gyflwynydd teledu ac yna cynhyrchydd teledu Cymraeg.
Bywyd cynnar
Ganed Naomi Jones yn un o tri o blant i'r cerflunydd Jonah Jones a'r awdur Iddewig, Judith Maro a magwyd hi yn Eifionydd lle'r oedd gan ei thâd stiwdio yn Nhremadog.
Gyrfa
Daeth yn gyflwynydd ar raglen Gymraeg BBC Cymru i blant a phobl ifanc, Bilidowcar yn yr 1970au. Bu'n actio am gyfnod yn y gyfres ddrama Dinas.
Aeth ymlaen i sefydlu cwmni animeiddio, Cartŵn Cymru gan gynhyrchu cyfresi animeiddio gwreiddiol yn y Gymraeg. Un o'u cyfresi mwyaf poblogaidd oedd Hanner Dwsin sef cartŵn am anturiaethau grŵp pop 'Hanner Dwsin'.
Mae'n gynhyrchydd i gwmni Cartŵn Cymru sydd wedi eu lleoli yn Abertawe. hefyd yn gyfrifol am gyfresi animeiddio eraill megis Testament: The Bible in Animation (1996); Gwr y Gwyrthiau / The Miracle Maker (2000); Otherworld/Y Mabinogi (2003) a Friends and Heroes (2007-2008).
Bywyd personol
Mae ganddi ddau o blant. Mae'n byw yn y Mwmbwls wedi blynyddoedd yng Nghaerdydd.
Dolenni allanol
- Naomi Jones ar wefan Internet Movie Database