peoplepill id: morgan-owen-1
MO
Wales
2 views today
2 views this week
Morgan Owen
Welsh poet and author

Morgan Owen

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet and author
Places
Work field
Birth
Age
30 years
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd a llenor Cymreig sy'n hanu o Ferthyr Tudful yw Morgan Owen (ganed 13 Ionawr 1994).

Graddiodd gyda BA Cymraeg o Brifysgol Caerdydd yn 2016, ac MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn 2017, hefyd o Brifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i ofodoldeb cerddi Dafydd ap Gwilym mewn perthynas â locus y goedwig.

Ym mis Rhagfyr 2019, enillodd Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd am ei gasgliad moroedd/dŵr.

Barddoniaeth

Mae'n rhan o brosiect 'Awduron wrth eu Gwaith' Gŵyl y Gelli. Fis Hydref 2018, ef oedd un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru,, ynghyd ag Osian Owen, Caryl Bryn, a Manon Awst; a'r un flwyddyn, ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn O'r Pedwar Gwynt,Barddas, ac Y Stamp, ymysg llefydd eraill. Enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans yn 2017 a 2018, sef tlws a roddir gan y Gymdeithas Gerdd Dafod am y gerdd orau mewn cystadleuaeth i feirdd dan 25 oed. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y Y Senedd i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad. Fe'i penodwyd yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Ionawr 2019.

Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl moroedd/dŵr, yng Ngŵyl Arall, Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin anelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan Gyhoeddiadau'r Stamp, ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist Timna Cox mewn ymateb i rai o'r cerddi. Enillodd y casgliad hwn wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd yn Rhagfyr 2019.

Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd Her Gyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru/PEN Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019. Ym mis Medi 2019, enillodd gadair Eisteddfod Cwmystwyth, gyda cherdd yn y wers rydd ar y testun 'Bro'; fis yn ddiweddarach, enillodd gadair Eisteddod Bancffosfelen a Chrwbin.

Ddiwedd mis Hydref 2019, cyhoeddwyd ei gasgliad hir cyntaf o gerddi, Bedwen ar y lloer, gan Gyhoeddiadau'r Stamp. Mae'r cerddi hyn yn mynd i'r afael â phrofiadau a llefydd ôl-ddiwydiannol, gyda thref enedigol y bardd, Merthyr Tudful, yn ganolog i lawer ohonynt, a theimladau o ymddieithrwch a pherthyn. Maent hefyd yn archwilio coedwigoedd hynafol a mannau dinesig, ucheldiroedd hynafol ac ymylon cymdeithas. Ceir canu natur yn ogystal, a thipyn o bwyslais ar sut mae hanes a phrofiad yn ymwau â gwahanol ofodau.

Rhyddiaith

Mae'n ysgrifwr toreithiog, ac wedi cyhoeddi nifer o ysgrifau ac adolygiadau mewn cyhoeddiadau megis O'r Pedwar Gwynt ac Y Stamp. Ym mis Ionawr, 2020, derbyniodd ysgoloriaeth awdur gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn datblygu casgliad o ysgrifau ar themâu amrywiol, yn cynnwys tirwedd a'r amgylchedd, perthyn ac ymddieithriwch, ysgrifennu am natur a'r Gymru ôl-ddiwydiannol.

Dramâu

Daeth yn ail agos yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn 2018. Cyhoeddwyd detholiad o'r ddrama honno, 'Y Gweundir', fel atodiad i rifyn Haf 2018 o gylchgrawn Y Stamp.

Cyhoeddiadau

  • Bedwen ar y lloer (cyfrol o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Hydref 2019
  • moroedd/dŵr (pamffled o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Gorffennaf 2019
  • Y Gweundir (detholiad o ddrama) - atodiad i gylchgrawn Y Stamp, Haf 2018

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Morgan Owen is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Morgan Owen
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes