Mici Plwm
Quick Facts
Biography
Actor a digrifwr o Gymro yw Mici Plwm (ganwyd 6 Mehefin 1944). Mae'n fwyaf adnabyddus am arloesi gyda disgos Cymraeg yn y 1960au a chwarae y cymeriad hoffus 'Plwmsan' ers y 1970au hwyr.
Bywyd cynnar
Ganwyd Michael Lloyd Jones yn Llan Ffestiniog, Sir Feirionydd yn ail o bedwar plentyn i Huw Morris Jones (Huw Môr) a Daphne Eva Jones (neé Harrison). Daeth ei fam i fyw yn ardal Blaenau Ffestiniog adeg yr Ail Ryfel Byd gyda'i rhieni, Mr a Mrs Barnett Harrison. Nid oedd ei blentyndod yn un hawdd am fod ei fam wedi treulio cyfnodau mewn ysbyty meddwl. Fe magwyd y teulu yng nghartref plant Bryn Llywelyn.
Aeth i Ysgol Gynradd Llan Ffestiniog (Ysgol Bro Cynfal erbyn hyn) a Ysgol Sir Ffestiniog (Ysgol y Moelwyn erbyn hyn).
Yn y 1960au roedd yn troelli disgiau dan yr enw 'DJ Plummy'. Fe'i ysbrydolwyd gan ymgyrchoedd iaith Cymdeithas yr Iaith i gael gwared o'i recordiau Saesneg a cychwynodd y Disco Cymraeg cyntaf gan newid ei enw DJ i Mici Plwm. Wnaeth 'Disco Teithiol Mici Plwm' deithio o gwmpas chlybiau a neuaddau pentref trwy Gymru am ugain mlynedd gan rannu llwyfan gyda bandiau fel Edward H Dafis.
Cymerodd Mici ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith ac fel rhan o'r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg, dringodd fast trosglwyddo Llanddona; derbyniodd ddedfryd o 12 mis o garchar gohiriedig.
Gyrfa
Daeth yn enwog yn ystod yr 1970au a'r 1980au am chwarae rhan 'Plwmsan y Twmffat Twp' yn y rhaglenni teledu Teliffant ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan ynghyd â Wynford Ellis Owen.
Roedd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Ardudwy, Harlech, rhwng 2002 a 2004.
Mae'n byw yn Harlech, Caerdydd a Phwllheli ac mae'n mwynhau gwyliau aml ar Ynys Agistri, Groeg.
Mae'n rhedeg y cwmni cysylltiadau cyhoeddus 'MP'.
Ffilmyddiaeth
- Teliffant (1972) (cyfres deledu) .... Plwmsan y Twmffat Twp
- Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (1982) (cyfres deledu) .... Plwmsan y Twmffat Twp
- Anturiaethau Jini Mê (1991) (cyfres deledu) .... Wmffra Bol Bisgets
- Caffi Sali Mali (1994) (cyfres deledu) .... Pry Bach Tew
- Gwyliwch Nhw'n Tyfu (1996) (fideo) .... Llais
- Ding Dong (1998) (cyfres deledu) .... Bobi
- Porc Peis Bach (2000) (cyfres deledu) .... Aelwyn