peoplepill id: menna-gwyn
MG
United Kingdom Wales
1 views today
1 views this week
Menna Gwyn
Welsh broadcaster

Menna Gwyn

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh broadcaster
Gender
Female
Place of death
Cardiff, Cardiff, Wales, United Kingdom
Age
64 years
Family
Spouse:
Aled Gwyn
Education
Aberystwyth University
Aberystwyth, Ceredigion, United Kingdom
Employers
BBC Cymru Wales
United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Darlledwraig o Gymraes oedd Menna Gwyn (23 Gorffennaf 1941 – 6 Ebrill 2006) a oedd yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru.

Bywyd cynnar ac addysg

Bu'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1959 a 1962. Penodwyd ei gŵr Aled yn weinidog ar Eglwys Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin yn Medi 1966 a daeth Menna yn rhan o fywyd cymdeithasol yr ardal.

Bu'n athrawes yn Ysgol Pantycaws am rai blynyddoedd, cyn cael plant. Cychwynnodd Cangen Hendygwyn o Ferched y Wawr yn 1970 a sefydlodd Cylch Meithrin yn ei chartref, tua 1972. Roedd hefyd yn cymryd dosbarthiadau nos i Ddysgwyr, yn Ysgol Griffith Jones.

Gyrfa

Bu'n actores yn y 1970au pan ddaeth yn aelod o gast gwreiddiol Pobol y Cwm gan chwarae Nyrs Jenni rhwng 1974 a 1975.

Wedi hynny daeth yn gyhoeddwr gyda Radio Cymru gan gysylltu rhaglenni a darllen bwletinau newyddion. Roedd yn adnabyddus am ei llais cyfoethog a ddisgrifiwyd fel 'melfedaidd' gan Aled Glynne Davies. Bu'n cyflwyno rhaglenni fel Gwynfyd a Menna a'r Clasuron. Cafodd Menna ei phenodi'n Uwch Gyhoeddwr Radio Cymru ac roedd yn gyfrifol am arwain tîm o gyflwynwyr a chynnig hyfforddiant. Cynhyrchodd raglenni fel Beti a’i Phobol a Wythnos i'w Chofio hefyd.

Ar deledu bu'n cyflwyno ar y rhaglen deledu nosweithiol Heddiw.

Bywyd personol

Roedd yn briod a'r Prifardd Aled Gwyn a chafodd ddau o blant, Non a Rolant.

Bu farw yn 64 mlwydd oed ar ôl salwch hir.

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Menna Gwyn is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Menna Gwyn
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes