Marjorie Clark
Quick Facts
Biography
Roedd Marjorie Clark (ganwyd Marjorie Lewis; 14 Gorffennaf 1924 – 9 Mawrth 2022), neu Arglwyddes Clark, yn weithredwr radio yn ystod yr Ail Rhyfel y Byd.
Cafodd Andolyn Marjorie Beynon Lewis ei geni yn Ystalyfera, yn ferch i Andolyn a Howell Lewis. Bu farw ei mam yn ystod yr enedigaeth Roedd ganddi chwaer, Gwenda. Cafodd ei haddysg yng Ngholeg Merched Cheltenham. Ym 1943 daeth swyddog o'r llywodraeth yno i recriwtio disgyblion i ymuno â'r Awdurdod Gweithrediadau Arbennig (Special Operations Executive).Priododd Lewis a Robert Clark (m. 2013), swyddog y cyfarfu ag ef yn ystod yr Ail Rhyfel y Byd. Yn ddiweddarach daeth e'n fanciwr a chafodd ei urddo'n farchog. Roedd y teulu’n byw mewn tŷ yn Surrey, cyn-gartref y garddwriaethwr Gertrude Jekyll, a oedd wedi’i ddylunio gan Edwin Lutyens.