Marian Delyth
Quick Facts
Biography
Ffotograffydd a dylunydd graffeg yw Marian Delyth (ganwyd Mawrth 1954).
Bywyd cynnar
Ganwyd Marian Delyth Jones yn Aberystwyth a derbyniodd ei haddysg gynnar yn yr Ysgol Gymraeg ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth. Tynnodd ei llun cyntaf yn 10 oed.
Gyrfa
Mae hi'n gweithio o'i stiwdio ym Mlaenplwyf, ger Aberystwyth ers 1982.
Wedi gadael y coleg, gweithiodd gyda chwmni hysbysebu am gyfnod cyn dychwelyd i fyw yng Ngheredigion. Mae gwaith Marian i'w gweld mewn nifer o gyhoeddiadau ac mae hi wedi ennill sawl gwobr. Yn 2000 dechreuodd ganolbwyntio ar ei ffotograffiaeth -ar gomisiynau, gwaith personol, gweithdai a dysgu o dro i dro.
Yn nechrau yn Ebrill 2014, bu arddangosfa o'i gwaith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, "60: Lluniau gan Marian Delyth", arddangosfa a oedd yn dathlu ac arddangos ei ffotograffiaeth ar ei phen-blwydd yn 60 mlwydd oed!".
Cyhoeddiadau
- Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw; Y Lolfa (2009)
Ffynonellau
- ↑ (Saesneg) Marian Delyth JONES. Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2016.
- ↑ 60: lluniau gan Marian Delyth. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2016.
- ↑ ffoton.wales; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ 60: Lluniau gan Marian Delyth. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2016.
- ↑ Gwefan y BBC; Hanesydd a ffotograffydd yn creu cyfrol ; adalwyd 05/01/2012