peoplepill id: mari-berllan-biter
MBB
United Kingdom Great Britain England
1 views today
1 views this week
Mari Berllan Biter
English witch

Mari Berllan Biter

The basics

Quick Facts

Intro
English witch
Gender
Female
Place of birth
Aberarth, United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Gwrach neu 'wraig hysbys' oedd Mari Berllan Biter (m. 4 Tachwedd 1898) a oedd yn byw yn Aberarth, pentref bach ar arfordir Ceredigion, tua 3 milltir i'r gogledd o Aberaeron yng Ngheredigion. Bu farw yn nhy ei chyfnither Mary Anne Davies yn Clifton Terrace, Aberarth ar 4 Tachwedd 1898.

Yn un o’r chwedlau amdani, gwrthododd i Dic y Felin falu ŷd iddi, felly gwnaeth Mari i olwyn y felin droi am yn ôl.

Dro arall bu i ferch ifanc o’r ardal ddwyn afal oddi ar Mari, a chafodd hi ei gorfodi, trwy wrachyddiaeth, i gerdded am yn ôl yr holl ffordd adref.

Dywedir ei bod yn fyr iawn, gydag un ysgwydd yn is na'r llall. Cuddiai ei phen o dan ei shol, ond pan godai ei phen i edrych ar rhywun, dywedir fod ei llygaid fel cyllell yn treiddio'n ddwfn. Arferai gardota, gyda basged wag, ond ni ofynai fyth am fwyd. pe gwrthodwyd hi, byddai'n troi ar ei sowdl ac yn melltithio'r person, neu ei anifeiliaid, neu'n peri i'r llaeth geulo.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Mari Berllan Biter is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Mari Berllan Biter
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes