peoplepill id: margaret-williams
MW
United Kingdom Wales
4 views today
13 views this week
Margaret Williams
Welsh singer and actress

Margaret Williams

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh singer and actress
Gender
Female
Place of birth
Brynsiencyn, Anglesey, Isle of Anglesey, United Kingdom
Residence
Cardiff, Cardiff, Wales, United Kingdom
Instruments:
Audio
Spotify
The details (from wikipedia)

Biography

Cantores soprano ac actores Gymreig ydy Margaret Williams. Yn wreiddiol daw o Frynsiencyn, Ynys Môn. Mae ei gwaith wedi amrywio o berfformio mewn sioeau cerdd i gyflwyno ei rhaglen deledu ei hun ar S4C. Caiff ei hystyried yn diva ac yn eicon hoyw Cymreig. Oherwydd hir-hoedledd ei gyrfa, fe'i hystyrir hefyd yn "drysor cenedlaethol"a chyfeiriodd Shan Cothi ati fel y "Joan Collins Cymreig".

Bywyd cynnar ac addysg

Fe'i magwyd ym Brynsiencyn ac aeth i'r ysgol gynradd leol ac yna Ysgol Uwchradd Biwmares. Cafodd wersi canu a piano drwy gydol ei arddegau, gan gystadlu mewn eisteddfodau er mwyn ennill arian. Cafodd ei derbyn yn 16 oed i Goleg Cerdd ym Manceinion ond nid oedd y teulu yn gallu fforddio ei danfon yno a gwrthodwyd grant iddi gan y cyngor nes ei bod yn 18 oed. Fe'i derbyniwyd i'r Coleg Normal, Bangor ar gwrs hyfforddi athrawon. Wedi gadael y coleg aeth i ddysgu i'r ysgol gynradd yn Biwmares.

Gyrfa

Pan oedd yn 15 oed, perfformiodd fel unawdydd yn cynrychioli Sir Fôn yng nghystadleuaeth y BBC Ser y Siroedd.

Dechreuodd Williams ei gyrfa ym 1964 pan enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Wedi symud i Gaerdydd a dechrau canu yn broffesiynol ar deledu, un o'r rhaglenni cyntaf a ganodd arni oedd Os Gwelwch Yn Dda. Ymddangosodd hefyd ar y gyfres ddychan Stiwdio B a'r gyfres adloniant Be Nesa?, cyfres gynta Ryan Davies. Roedd ei bryd ar hyfforddi i ganu opera ond am ei bod wedi priodi yn ifanc ac yn magu blant, roedd yn haws iddi ddilyn gyrfa canu ysgafn.

Yn ystod ei gyrfa, gweithiodd gyda rhai o brif sêr y llwyfan yng Nghymru, yn cynnwys y diweddar Ryan Davies a Ronnie Hazlewood.

Margaret oedd enillydd cyntaf Cân i Gymru pan ddechreuodd y gystadleuaeth ym 1969.

Bu yn gyhoeddwr rhaglenni ar HTV Cymru yn yr 1970au ac ar S4C yn yr 1980au. Roedd ganddi ei chyfres ei hun, Margaret ar S4C rhwng 1982 a 1999.

Mae Williams wedi dylanwadu ar ddiwylliant fodern hefyd. Yn y ddrama Llwyth gan Dafydd James, cyfeirir ati fel arwres camp i un o'r cymeriadau hoyw.

Bywyd personol

Mae'n briod a'r darlledwr Geraint Jones.

Gwaith teledu

  • Margaret - 1982-1999
  • Cwin Y Sgrin - Cyngerdd byw o Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, 2004.
  • Cân i Gymru 2009 - beirniad.
  • Cwpwrdd Dillad
  • Cofio

Sioeau Cerdd

  • Amazing Grace

Disgyddiaeth

Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Margaret Williams

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Margaret Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Margaret Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes