peoplepill id: mair-davies
MD
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

The details (from wikipedia)

Biography

Cenhades Gymreig oedd Mair Davies (1935 – 20 Awst 2009) a dreuliodd rhan helaeth o'i bywyd yn gweithio yn Nhrelew, Patagonia, yr Ariannin. Cawsai ei hadnabod weithiau fel Miss Mair. Yn 2010, cyhoeddwyd y llyfr "Hyd Eithaf y Ddaear" sy'n sôn am ei hatgofion a theyrngedau a wnaed iddi ar ôl ei marwolaeth.

Cafodd ei geni ar fferm Bercoed Ganol ym Mhentre Cwrt, ger Llandysul yn un o wyth o blant. Ar y 23 Tachwedd, 1963, pan yn 28 oed, aeth i Batagonia fel cenhades gyda'r Methodistiaid. Aeth i Bariloche yn yr Andes i ddysgu Sbaeneg er mwyn medru cyfathrebu â'r trigolion lleol y byddai'n gweithio â hwy. Pan ddaeth ei chytundeb i ben, arhosodd Mair Davies yn y Wladfa er mwyn cynorthwyo gyda'r capeli Cymraeg. Davies oedd yr unig gweinidog a oedd yn pregethu trwy gyfrwng y Gymraeg, ar wahan i ambell bregethwr a oedd yn ymweld â'r Wladfa.

Agorodd siop lyfrau Cristnogol yn Nhrelew ym 1974 ac ail siop yn Comodoro. Yn hwyrach, caeodd y siop honno gan agor siop arall ym Mhorth Madryn a oedd dipyn yn agosach yn ddaearyddol.

Bu farw ar 20 Awst, 2009 yn Nhrelew ac fe'i claddwyd ym mynwent y Gaiman.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Mair Davies is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Mair Davies
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes