Louisa Darby
Quick Facts
Biography
Roedd Louisa Jane Darby (1797 - 29 Rhagfyr 1818) yn un o'r cenhadon a hwyliodd o Gravesend i Fadagasgar yn 1818.
Ganwyd Louisa tua'r flwyddyn 1797 yn Gosport, Hampshire. Roedd yn aelod yn Eglwys David Bogue, Gosport ac yno y cyfarfu â David Jones, Neuaddlwyd tra'r oedd ef yn hyfforddi i fod yn genhadwr yng Ngholeg Gosport. Priodwyd Louisa a David Jones yn 1817 ychydig wedi iddo ef a'i gyfaill Thomas Bevan gael eu hordeinio'n genhadon.
Hwyliodd Louisa a'i gŵr David Jones, gyda Thomas Bevan a'i wraig Mary Bevan am ynys Fadagasgar ar 9 Chwefror 1818 an gyrraedd Mauritius ar 3 Orffennaf, 1818. Bu i Louisa roi genedigaeth i blentyn o'r enw Anna yn ystod y fordaith. Wedi treulio ychydig dros fis ym Mhorth Louis, aeth y ddau deulu i ben eu taith gan dirio ym mhorthladd Tamatave ar 18 Awst, 1818.
Cafodd Louisa a'i phlentyn Anna eu taro'n sâl o fewn ychydig fisoedd ar ôl cyrraedd Madagasgar. Bu farw Anna ar 13 Rhagfyr a bu farw Louisa, o glefyd malaria yn ôl pob tebyg, ar 29 Rhagfyr 1818. Claddwyd hwy ym mynwent Tamatave ar arfordir orllewinol Madagasgar.
Mae Louisa Darby yn cael ei chofio hyd heddiw fel un o'r cenhadon a ddaeth â Christnogaeth i ynys Fadagasgar.