peoplepill id: llywelyn-brydydd-hoddnant
LBH
1 views today
1 views this week
Llywelyn Brydydd Hoddnant

Llywelyn Brydydd Hoddnant

The basics

Quick Facts

Work field
Gender
Male
The details (from wikipedia)

Biography

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Brydydd Hoddnant (bl. chwarter cyntaf y 14g). Yn ôl pob tebyg roedd yn frodor o Geredigion. Bardd ceidwadol a gadwai at ddull canu'r Gogynfeirdd ydoedd.

Bywgraffiad

Ceir sawl lle o'r enw 'Hod[d]nant' yng Nghymru, ond gan fod cerddi Llywelyn yn ei gysylltu â noddwyr yng Ngheredigion mae'n debyg fod ei enw barddol yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn byw ger un o'r pedair nant yn yr ardal honno sy'n dwyn yr enw Hoddnant. Ceisiodd Iolo Morgannwg ei wneud yn frodor o Nant Hoddnant ger Llanilltud Fawr ond does dim sail i'r honiad hwnnw.

Cerddi

Mae'r ychydig a wyddom am y bardd yn seiliedig ar dystiolaeth y tair cerdd o'i waith a geir yn Llawysgrif Hendregadredd. Ceir dwy gerdd foliant, sef awdl ar fesur gwawdodyn a dilyniant o englynion, i'w noddwr Ieuan ap Gruffudd Foel o Lyn Aeron ac un arall i'w wraig Ellylw.

Llyfryddiaeth

  • Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). ISBN 0-947531-39-4

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Llywelyn Brydydd Hoddnant is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Llywelyn Brydydd Hoddnant
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes