peoplepill id: llion-williams
LW
Wales
7 views today
10 views this week
Image: bbc.com
Llion Williams
Welsh actor

Llion Williams

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh actor
Places
Gender
Male
Birth
Age
63 years
Education
Friars School, Bangor
The details (from wikipedia)

Biography

Actor o Gymro ydy Llion Williams (ganwyd 1961). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel George Hughes yn rhaglen C'mon Midffild! tua ddiwedd yr 1980au a dechrau'r 1990au. Bu hefyd yn lleisio nifer o gartwnau megis y Smyrffs yn Gymraeg, ac yn ddigrifwr stand-yp.

Bywgraffiad

Ganwyd Llion ym Mangor a fe'i magwyd yn Nhal-y-bont yn Nyffryn Conwy cyn i'r teulu symud i Fangor. Ei frawd oedd y prifardd Iwan Llwyd. Aeth i Ysgol Friars, Bangor ac yna Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'n byw erbyn hyn yn Llanrug ger Caernarfon.

Ar 18 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i'r theatr.

Gwaith

Teledu

Nifer o gyfresi megis Amdani, Pengelli, Deryn, Rhew Poeth & Sgid Hwch (Ffilmiau'r Nant).

  • Dyddiadur Dyn Dwad, ffilm deledu, Teliesyn (1989)
  • C'mon Midffild!, Ffilmiau'r Nant
  • Teulu'r Mans, 4 cyfres, HTV
  • Cyfyng Gyngor, 4 cyfres, HTV
  • Tydi Bywyd yn Boen, cyfres, Eryri
  • Cysgodion Gdansk, cyfres, Tŷ Gwyn
  • Lleifior, cyfres, Tŷ Gwyn
  • Y Darlun, BBC
  • IAW, Apollo/BBC
  • Blodeuwedd, Y Dyn Peryg & Llwybr Defaid, Bryngwyn
  • Y Ferch Drws Nesa, comedi sefyllfa, Matinee
  • Hedydd yn yr Haul, Enillydd Drama Ddogfen BAFTA Cymru, Bont
  • A Mind to Kill, Cyfres Sky/S4C
  • Ac Eto Nid Myfi
  • Ista'nbwl, S4C
  • Lan a Lawr, S4C
  • Y Gwyll, BBC/S4C
  • Death or Liberty - yn chwarae Zephaniah Williams, S4C, ABC, TG4
  • Craith, BBC/S4C
  • Fferm Ffactor, S4C

Theatr

  • Chwalfa, Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd, Theatr Genedlaethol Cymru
  • Rape of the Fair Country, Cyfarwyddwr: Tim Baker, Theatr Clwyd
  • Journey of Mary Kelly, Cyfarwyddwr: Terry Hands, Theatr Clwyd
  • A Christmas Carol, Cyfarwyddwr: Terry Hands, Theatr Clwyd
  • Abigail’s Party, Cyfarwyddwr: Fiona Baffini, Theatr Clwyd
  • Minimata, Cyfarwyddwr: Ian Yeoman, Theatr Powys
  • The Chalk Circle, Cyfarwyddwr: Graham Laker, Theatr Gwynedd
  • The Cherry Orchard, Cyfarwyddwr: Graham Laker, Theatr Gwynedd
  • Antigone, Cyfarwyddwr: Ian Yeoman, Theatr Powys
  • Hen Rebel, Cyfarwyddwr: Cefyn Roberts, Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru
  • Owain Mindŵr 2003, cynhyrchiad Cwmni Bara Caws
  • Cysgod y Cryman 2007, addasiad llwyfan Siôn Eirian o nofel Islwyn Ffowc Elis, cynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru

Cyflwyno

  • Gair Am Aur, 3 Cyfres Cwis, S4C
  • Drannoeth y Ffair, Rhaglen gerddoriaeth gyda bandiau byw, S4C
  • Peter and the Wolf, Adroddwr, Ensemble Cymru
  • Cynhadleddau Addysg Pellach, Coleg Prifysgol Cymru
  • Amryw o raglenni chwaraeon ar S4C

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Llion Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Llion Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes