Joseph Seth Jones
Quick Facts
Biography
Roedd Joseph Seth Jones (1845–1912) yn un o'r Gymru a fudodd i Batagonia ar long y Mimosa.Roedd yn ugain mlwydd oed ac yn gweithio fel argraffydd i Gwasg Gee pan ffarweliodd a Chymru.Mae'n enw adnabyddus gan iddo gadw cofnod o'r daith drwy ddull dyddiadur.
Cefndir
Ganwyd Joseph Seth Jones ym Mhenanner, plwyf Llanfair Talhaearn.Ef oedd y ieuengaf ond un o wyth o blant Charles a Jane Jones.Mynychoch ysgol Nantglyn cyn iddo orfod symud i ysgol Llanfair Talhaearn.Ar ôl gadael yr ysgol yn bedwar ar ddeg mlwydd oed, dechreuodd Joseph Seth Jones brentisiaeth gyda'r Visitor Office, sef argraffdy Robert Jones, Abergele.Ond gadawodd y swydd honno oherwydd 'amgylchiadau yn y swyddfa' chwe mis cyn gorffen ei brentisiaeth.Ar ôl hyn, fe ddechreuodd ar ei swydd llawn amser fel argraffydd i Wasg Gee, Dinbych.
Gadael Cymru
Nid yw'n eglur pam benderfynodd Joseph Seth Jones ymfudo.Credir ambell un iddo gael ei ysbrydoli ar ôl gweld hysbyseb a ymddangosodd yn rhifyn 8 Ebrill o 'Yr Herald Cymraeg', yn gofyn am '12 o fechgyn ieuanc, cynefin a gwaith, ac o gymeriad da' a'r cynnig o 'drefn esmwyth i ad-dalu' costau'r daith.Gwrthododd Gwasg Gee ei ymddiswyddiad yn wreiddiol, ond gadel ei swydd y gwnaeth yn y pen draw er mwyn hwylio o ddociau Lerpwl.
Dyddiadur
Ysgrifennodd Joseph Seth Jones ei ddyddiadur rhwng y cyfnodau 19-26 Ebrill 1865, 25 Mai - 27 Gorffennaf 1865 a 14-21 Mawrth 1866.Yn ei nodiadau mae'n son am y diwrnodau oedd yn arwain at gychwyn y fordaith ar Fai 28, yn ogystal â'i gyfnod ar fwrdd y Mimosa.
Llythyrau
Yn ogystal ag ysgrifennai ei ddyddiadur, ysgrifennodd Joseph Seth Jones gasgliad o lythyron.
Llyfryddiaeth
- Elvey MacDonald (2002) Dyddiadur Mimosa - Joseph Seth Jones