peoplepill id: john-williams-31
JW
United Kingdom
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet
A.K.A.
Ioan Madog
Work field
Gender
Male
Age
65 years
Family
Father:
Richard Williams
Siblings:
Richard Williams
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd Cymraeg a gof oedd John Williams (3 Medi 1812 – 5 Mai 1878), a adnabyddid wrth ei enw barddol Ioan Madog.

Bywgraffiad

Ganed Ioan Madog yn y Bontnewydd ger Rhiwabon, cartref ei rieni, Richard ac Elinor Williams, ar y pryd. Ymhen tua naw mlynedd, sef tua'r flwyddyn 1821, symudodd y teulu i'r cartref gwreiddiol yn Nhremadog. Gof oedd tad y bardd a dysgodd yntau y grefft ganddo wrth brifio.

Bu mewn ysgol am dymor yn Nhremadog ac, yn ddiweddarach, mewn ysgolion yn Sir Ddinbych ac wedyn yn nhref Caernarfon; peth anghyffredin pryd hynny oedd i fab crefftwr gael addysg ffurfiol fel hyn. Glynnodd wrth grefft ei dad er hynny gan ennill enw am ei waith. Dywed y bardd Thomas Jones (Cynhaiarn) fod iddo gryn fedr yn gwneud offer haearn i'w defnyddio ar y llongau a adeiledid ym Mhorthmadog.

Bu farw ar y 5ed o Fai 1878 a chafodd ei gladdu ym mynwent Ynyscynhaearn.

Barddoni

Bu'n barddoni er yn gynnar yn ei oes. Pan dyfodd i fyny dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau. Fe'i urddwyd yn fardd yn eisteddfod y Bala, 1836. Cafodd ei wobrwyo am ei ymdrechion yn eisteddfodau Aberffraw, 1849, Rhuddlan, 1850, eisteddfod Madog, 1851, a sawl un arall. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi gyda chofiant iddo yn 1881.

Llyfryddiaeth

  • Gwaith Barddonol Ioan Madog ynghyd â Bywgraffiad o'r awdwr, a llythyrau oddi wrth rai o brif feirdd y genedl (Pwllheli, 1881 )

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
John Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
John Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes