John Roberts
Quick Facts
Biography
Cerddor oedd John Roberts (1806 – 18 Tachwedd 1879).
Cefndir
Ganwyd Roberts yn y Bala. Yn fachgen, roedd yn gwneud gwaith llafur ar y ffermydd o gwmpas ei gartref. Yn ddyn ifanc, symudodd i Aberystwyth a dysgodd y grefft o gerfio.
Cerddoriaeth
Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth ac roedd yn rhan fawr o fywyd cerddorol y dref a'r ardal lleol. Cyfansoddodd y diwn 'Alexander' pan oedd yn 18 oed ac ym 1853 roedd y diwn ym mysg cant o donau yn Perorydd y Cysegr. Dan olygiaeth yr organydd o Aberystwyth, J. Wilks, cyhoeddodd Serff Cymru oedd yn cynnwys anthemau a chorganau.
Blynyddoedd olaf
Am flynyddoedd, bu'n arwain y canu yng nghapel Bedyddwyr Penpound wedi iddo symud i Aberdar ym 1855. Ym 1873, dychwelodd i Aberystwyth a bu farw yno ar 18 Tachwedd 1879. Yng nghladdfa Aberystwyth mae ei fedd.
Ffynonellau
- M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (1890);
- Y Cerddor, Mehefin 1893 a Mehefin 1918;
- Cymru (O.M.E.), 1899.