peoplepill id: john-robert-jones
JRJ
Wales
2 views today
3 views this week
John Robert Jones
Welsh poet and hymn-writer

John Robert Jones

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet and hymn-writer
A.K.A.
Alltud Glyn Maelor
Places
Gender
Male
Birth
Place of birth
Llanarmon-yn-Iâl, Denbighshire, Wales, United Kingdom
Place of death
Brymbo, Wrexham County Borough, Wales, United Kingdom
Age
81 years
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd John Robert Jones (Alltud Glyn Maelor) ( tua 1800 – 11 Mai, 1881) yn emynydd gwerinol.

Cefndir

Ganwyd Alltud Glyn Maelor yn Llanarmon yn Iâl, mae'n debyg ei fod yn perthyn i Ehedydd Iâl. Symudodd i Frymbo ym 1834 ac yno fu'n byw am weddill ei fywyd.

Gyrfa

Gweithiodd fel crydd am y rhan fwyaf o oes cyn mynd i weithio i'r gwaith haearn fel torrwr sgriwiau.

Roedd yn emynydd toreithiog. Cyhoeddwyd nifer ohonynt mewn dwy gyfrol: Y Fodrwy Aur ym 1866 a Y Rhosyn Diweddaf (1889). Yn ystod Diwygiad Cymru 1904 - 1905 cyhoeddwyd llyfr o emynau a fu'n boblogaidd yn ystod Diwygiad Cymru 1859 Gwreichion y Diwygiadau o dan olygyddiaeth Carneddog. Roedd y gyfrol yn cynnwys nifer o emynau poblogaidd Alltud Glyn Maelor.

Yn ôl W. Eifion Powell ym Mwletin Cymdeithas Emynau Cymru:

Meddai ar ddiwylliant a diddordeb crefyddol dwfn a hoffai fydryddu rhai o'r ymadroddion a'r syniadau trawiadol a glywai o bulpud ac mewn seiat yn ogystal â mydryddu darnau o'r Ysgrythur.

Ei emyn enwocaf oedd:

Cofio'r wyf yr awr ryfeddol,
Awr wirfoddol oedd i fod;
Awr a nodwyd cyn bod Eden,
Awr a'i dyben wedi dod;
Awr wynebu ag un aberth,
Awr fy Nuw i wirio'i nerth;
Hen awr annwyl prynu enaid,
Awr y gwaed - Pwy wyr ei gwerth?

Roedd rhai o'i emynau yn Llyfr Emynau'r Bedyddwyr Y Llawlyfr Moliant Newydd. Ond ni chafodd ei gynnwys yn y llyfr emynau cyd enwadol Caneuon Ffydd a disodlodd y llyfrau emynau enwadol yn 2001.

Teulu

Cafodd Alltud Glyn Maelor a Mary ei wraig o leiaf 6 o feibion roedd ei fab hynaf Noah yn fardd gwlad hefyd ond bu farw yn 26ain oed. Roedd dau arall o'i feibion y Parch John R Jones, Pontypridd a'r Parch William Jones, Abergwaunyn weinidogion gyda'r Bedyddwyr.

Marwolaeth

Bu farw ym Mrymbo yn 81 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Brymbo.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
John Robert Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
John Robert Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes